Tymor yma yng Nghaersalem da ni wedi bod yn edrych ar rai Salmau gyda’n gilydd ar fore Sul. Meddwl oeddwn i y byddai crynodeb o’r pregethau yn gwneud cyfres da o flog bostiau. Dyma’r cyntaf felly yn trafod her Salm 1.
Rydym ni wedi ein bendithio gyda’r ffaith ein bod ni’n byw mewn gwlad lle mae gan bawb ryddid barn a rhyddid cydwybod. Mae Americanwyr yn fwy na neb yn cyfri eu rhyddid yn beth pwysig – dyna pam eu bod nhw’n dathlu Independence Day bob blwyddyn. Dathlu’r ffaith eu bod nhw wedi dod yn annibynnol o’u hen feistri yn Ewrop. Un o’r pethau rydym ni’n clywed yn fwyaf aml ar y newyddion dyddiau yma yw refferendwm yr Alban. Y ffaith fod yr SNP eisiau arwain eu gwlad yn rhydd. Mae’r holl bethau yma yn dangos fod rhyddid ac annibyniaeth, beth bynnag mae hynny yn ei olygu, yn rhywbeth sy’n cael ei gyfri yn bwysig i bobl.
Ond wrth gwrs, ochr yn ochr a rhyddid mae cyfrifoldeb yn dod. Unwaith eto, dyna yw dadl fawr yr SNP. Maen nhw eisiau i’r Alban gael rhyddid er mwyn i’r Albanwyr gael cymryd cyfrifoldeb dros eu gwlad eu hunain. Gyda rhyddid y daw cyfrifoldeb.
Os ydy rhyddid yn bwysig yn y byd gwleidyddol, yna mae rhyddid hefyd yn bwysig yn ysbrydol. A dyna sy’n dod i’r amlwg yn y Salm 1 – y ffaith syml fod gan bawb ryddid i wneud dewis ynglŷn â lle maen nhw’n sefyll gyda Duw. A gyda’r rhyddid ysbrydol yma – daw cyfrifoldeb mawr. Mae Iesu yn siarad am y rhyddid i ddewis yma yn Mathew 7: “Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng; oherwydd llydan yw’r porth ac eang yw’r ffordd sy’n arwain i ddistryw, a llawer yw’r rhai sy’n mynd ar hyd-ddi. Ond cyfyng yw’r porth a chul yw’r ffordd sy’n arwain i fywyd, ac ychydig yw’r rhai sy’n ei chael.”
Mae Salm 1 yn cychwyn drwy ddweud gwyn eu byd y rhai sy’n ymhyfrydu yng nghyfraith yr Arglwydd. Cyn i ni fynd ymlaen mae’n bwysig i ni nodi mae nid dewis sydd fan hyn rhwng cadw rheolau Duw ar un llaw, a gwneud beth ydych chi eisiau ar y llaw arall. Oherwydd mae yna “dduw” ar y ddau lwybr. Y cwestiwn yw: ydych chi’n dewis y llwybr sydd a’r Duw byw yn dduw arni? Neu dewis y llwybr sydd a’r FI fawr yn dduw arni?
Edrychwch ar y disgrifiad o’r person sydd wedi dewis yr Arglwydd yn Dduw yn adnod 3. “fel pren wedi ei blannu wrth ffrydiau dŵr”, “rhoi ffrwyth yn ei dymor” ac “a’i ddeilen heb fod yn gwywo”. Mae’r Salm fan hyn yn dangos fod gadael i Dduw fod yn Arglwydd ar eich bywyd yn ddewis sy’n rhoi bywyd a gobaith.
Ond beth am y llwybr arall? Mae’r Salmydd yn disgrifio’r rhai sydd wedi dewis eu llwybr eu hunain fel “us yn cael ei yrru gan wynt”. Arwydd o rhywbeth sy’n dod i ddim byd ac yn y diwedd yn cael ei chwythu i ffwrdd gan y gwynt. Ffordd sydd yn darfod. Heibio i Lanllyfni mae yna ffordd sy’n mynd i nunlle. Da i ddim byd.
Mae Salm 1 yn cymell pawb i fod yn rhan o “gynulleidfa’r cyfiawn”. Ond mae’n bwysig iawn nodi mae nid ystyr hyn yw cynulleidfa’r “hunangyfiawn”. Crefyddwyr sy’n hunangyfiawn. Ystyr cynulleidfa’r cyfiawn yw’r bobl sy’n ymddiried yr yr Arglwydd i’w cyfiawnhau nhw. Ac yn ein dydd ni heddiw wrth annog pobl i ddewis llwybr yr Arglwydd beth sy’n bwysig ydy annog pobl i ddewis Iesu sydd wedi ein cyfiawnhau ni ar y Groes. Dydy’r efengyl ddim ynglŷn â chadw rheolau, mae ynglŷn ag ymddiried yn Iesu.
Mae Salm 1 ar ddechrau’r gyfres yma yn gosod her. Os ydym ni am fynd ymlaen i’r Salmau nesaf – canu clod i Dduw trwyddyn nhw, gweddïo ar Dduw trwyddyn nhw, wel, yn gyntaf mae’n rhaid i ni gydnabod Duw yn Arglwydd ar ein bywydau. Mae Duw wedi rhoi rhyddid i ni ddewis. Ond gyda’r rhyddid yna y daw cyfrifoldeb. Cyfrifoldeb i ddewis y bywyd newydd mae Iesu Grist wedi ei roi i ni.