Tymor yma yng Nghaersalem da ni wedi bod yn edrych ar rai Salmau gyda’n gilydd ar fore Sul. Meddwl oeddwn i y byddai crynodeb o’r pregethau yn gwneud cyfres da o flog bostiau. Dyma Salm 23.

Salm 23, un o’r Salmau mwyaf cyfarwydd. Mae’n siŵr mae dyma ffefryn llawer un. Mae’n debyg fod pawb ar ryw dro neu gilydd wedi cael cymorth a nerth o’r Salm yma. Mae o’n ddarn o’r Beibl sy’n ymddangos yn aml iawn mewn diwylliant poblogaidd. Wrth i’r llong suddo yn y ffilm Titanic mae’r Salm yn cael eu channu yn y cefndir. Salm 23 oedd theme tune y gyfres gomedi The Vicar of Dibely. Heddiw rydym ni’n edrych ar Salm bwerus a phoblogaidd.

Mae’r Salm yn agor gyda’r ymadrodd cyfarwydd: ‘Yr Arglwydd yw fy Mugail’. Mae’n mynd ymlaen i sôn sut mae’r Bugail yn tywys y salmydd trwy wahanol bethau a gwahanol lefydd. Wn i ddim os ydych chi wedi bod yn rhywle sy’n ddieithr i chi, ond yn gwmni i chi mae rhywun sy’n adnabod y ffordd neu’n adnabod yr ardal yn dda. Ddydd Llun diwethaf fe es i lawr i gyfarfod yn Aberystwyth. Taith dwi wedi gwneud gannoedd o weithiau a dwi’n adnabod y lôn yn dda. Dwi’n gwybod lle mae angen bod yn ofalus, lle sy’n droellog ac yn gallu bod yn llithrig. Dwi hefyd yn gwybod lle mae’r lôn yn dda a digon o gyfle i roi fy nhroed i lawr. Os ydy rhywun yn gorfod mynd ar hyd y daith yna am y tro cyntaf, cofiwch ofyn i mi eich tywys chi – oherwydd dwi’n gwybod y ffordd. A gobeithio y byddwch chi wedyn yn teimlo’n fwy saff.

Mae ffermwyr yn adnabod eu tir yn well na neb, yn arbennig ffermwyr mynydd. Dwi’n cofio clywed sôn ffrind a’i deulu yn mynd i gerdded yr wyddfa un tro. Ar y ffordd i fyny dyma nhw’n pasio Bugail oedd yn eu rhybuddio nhw i fod yn ofalus gan fod sôn y gallai niwl syrthio yn hwyrach yn y p’nawn. Rai oriau wedyn a’r teulu ar y ffordd i lawr dyma’r niwl mwyaf trwchus yn syrthio. Aeth y teulu ymlaen yn araf deg ond mewn gwirionedd roedden nhw ar goll. Yn y pellter roedden nhw’n gweld golau a penderfynu anelu amdano. Wrth iddyn nhw ddod yn nes dyma nhw’n clywed sŵn injan. A pwy oedd yn eu disgwyl ar groesffordd yn y llwybr oedd y ffermwr welson nhw rai oriau yn gynt yn ei Land Rover. Dyma nhw’n gofyn iddo fe pa ffordd i’w gymryd? Ond yn lle rhoi cyfarwyddiadau fe stwffiodd e nhw i gyd i mewn i’r Land Rover a’u cludo nhw’n saff i waelod y mynydd.

Delwedd o Iesu. Roedd y teulu yn saff gan eu bod nhw yng nghwmni’r Bugail oedd yn adnabod y mynydd. Ac fe welwch chi fod y stori yna yn dangos i ni beth mae’r salmydd yn ei fynegi wrth ddweud mae’r Arglwydd yw fy mugail. Byddwn ni yn saff ar y ffordd i Aberystwyth os fyddwn ni yng nghwmni rhywun sy’n gwybod y ffordd. Byddwn ni’n saff ar lethrau’r Wyddfa yng nghwmni ffermwr sy’n adnabod y mynydd. Ond yn fwyaf pwysig byddwn ni’n saff drwy brofiadau a phrofedigaethau bywyd yng nghwmni’r Bugail Da.

Wrth i ni edrych ar y rhan nesaf sy’n sôn am fynd trwy y ‘dyffryn tywyll du’ neu trwy ‘lyn cysgod angau’ mae’n bwysig iawn dweud un peth. Dydy’r Salm yma ddim yn dysgu: ‘trystiwch yn yr Arglwydd Dduw a fydd pob dim yn iawn, gewch chi ddim trwbl o gwbwl a bydd dim byd anodd byth yn digwydd i chi’. Mae’r Salm yma, fel sawl rhan arall o’r Beibl, yn dysgu fod y Cristion, fel pawb arall, yn profi y pethau anoddaf sydd gan y byd yma i daflu atom ni. Dydy’r Salmydd ddim yn rhoi clod i Dduw am iddo adeiladu lôn osgoi o gwmpas y dyffryn tywyll du. Mae’r Salmydd yn dysgu dibynnu a rhoi clod i Dduw hyd yn oed wrth fynd trwy ganol y dyffryn tywyll du.

Mae’r Salm yma yn ein dysgu ni fod cwmni gyda ni yn y dyffryn tywyll du. Yn aml yn fy ngwaith Bugeiliol bydda i’n teimlo fel fraud. Gan mod i’n gymharol ifanc tydw i ddim wedi profi llawer o’r profedigaeth mae llawer ohonoch chi wedi ei brofi. Ond dwi yn gallu sôn am un sydd wedi bod trwy ddyffryn tywyll du. Dwi’n gallu sôn am un sydd yn gwybod yn iawn beth rydych chi wedi mynd trwyddo. Sef yr Arglwydd Iesu ei hun. Oherwydd fod Duw, trwy ei gariad a’i ostyngeiddrwydd wedi dod mewn i’r byd fel dyn – mae e wedi profi yr emosiynau, y straen a’r temtasiynau rydym ni’n mynd trwyddyn nhw. Felly mae gyda ni gwmni yn ein dyffrynnoedd tywyll du. Cwmni’r Arglwydd.

Dwi’n cofio pan oeddwn i’n fach doeddwn i ddim eisiau mam neu dad fy ngadael yn y tywyllwch ar ben fy hun. Felly yn aml byddai Mam neu Dad yn aros mewn yn y stafell wely tan mod i’n syrthio i gysgu. Roedd y stafell dal yn dywyll ond roedd gen i gwmni yn y tywyllwch. Felly nid y tywyllwch mewn gwirionedd oedd yn fy nychryn i, ond yn hytrach y teimlad o fod ar ben fy hun. Roedd yna deimlad diogel, hyd yn oed yn y tywyllwch, os oedd Mam neu Dad yna efo fi. A rhyw deimladau felly mae’r Salmydd yn rhannu fan hyn. Mae’r tywyllwch yn parhau – dydyn ni ddim yn siŵr beth yn union oedd y cyd-destun. Salwch o bosib, profedigaeth, unigrwydd? Ond roedd profi presenoldeb Duw y Bugail gyda’r Salmydd yn y tywyllwch yn newid popeth.

Mae’r Salm yn gorffen gyda’r Salmydd yn siarad mewn gobaith, er gwaethaf y tywyllwch mae wedi ei brofi. Mae’n sôn am yr addewid mae Duw yn rhoi i bawb sy’n ymddiried ynddo fe sef i gael byw yn ei dŷ gweddill ei ddyddiau. Mae’r syniad yna yn hyfryd – ond mae’n syniad mae’n werth i ni fyfyrio rhywfaint drosto fe. Wrth i glywed yr ymadrodd ‘byw yn nhŷ yr arglwydd gweddill ein dyddiau’ mae’n bosib iawn mae rhyw ddelwedd ryfedd am bobl yn gwisgo gwyn yn eistedd ar gwmwl yn canu cerdd dant sy’n dod i’r meddwl. Delwedd sy’n swnio mwy fel hunllef na rhywle dwi eisiau bod!

Ond mae’r Beibl yn sôn fwy am Dduw yn dod i wneud ei dŷ gyda ni na ni yn mynd i ffwrdd ato fe. Fy hoff ddarn i o’r Beibl sy’n rhoi cipolwg i ni o sut fydd pethau yw Datguddiad 21:3-4:

“Wele, y mae preswylfa Duw gyda’r ddynoliaeth; bydd ef yn preswylio gyda hwy, byddant hwy yn bobloedd iddo ef, a bydd Duw ei hun gyda hwy, yn Dduw iddynt. Fe sych bob deigryn o’u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen. Y mae’r pethau cyntaf wedi mynd heibio.”

Dyma oedd y gobaith oedd yn cynnal y Salmydd trwy y dyffryn tywyll du. Ond mae’r adnod hefyd yn sôn fod gobaith gan y Salmydd heddiw hefyd. Nid dim ond rhywbeth i edrych ymlaen ato – ond rhywbeth i ddal gafael ynddo heddiw. Yn aml byddwn ni’n meddwl am fywyd tragwyddol fel rhywbeth sydd i ddod ar ôl i ni farw. Ond mae bywyd tragwyddol a perthynas fyw gyda’r Duw byw yn dechrau y diwrnod byddw ni’n ymddiried yn Iesu.

Dyma ddyfyniad arbennig gan Tom Wright sy’n egluro hyn:
“But this ‘salvation’, as Paul often makes clear, isn’t only in the future, though that’s where its full glory will be seen. It makes its way forwards into the present, rescuing people from the state of sin, and rescuing God’s people from trouble and persecution. ‘Salvation’ is a present reality as well as a future hope . . . They were saved; they are being saved; they will be saved.”
Salmydd wedi ei brofi, hyd yn oed yn y dyffryn tywyll du.

Mae gwahoddiad i bob un ohonom ni droi a cydio yn y llaw sy’n cynnig maddeuant i ni am bob bai. Mae gwahoddiad i bob un ohonom ni droi a cydio yn y llaw fydd yn ein cynnal trwy brofiadau anoddaf y byd yma.

Please follow and like us: