Daeth y daflen etholiadau gyntaf trwy’r post heddiw. Taflen gan Sarah Green, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol.
Y Blaen
Y pwynt cyntaf sy’n cael ei wneud ar flaen y daflen ydy sôn am brinder tai fforddiadwy, ac mae’n dda ei bod hi’n tynnu sylw at hynny. Ond does dim sôn yn y daflen am bolisïau fyddai’n mynd i’r afael a’r broblem. Yna mae’r daflen yn cydnabod argyfwng y Prifysgolion, sôn am y toriadau sylweddol sydd yn eu hwynebu. Mae hwn yn bwynt pwysig iawn i’w nodi mewn etholaeth fel Arfon gan fod Prifysgol Bangor mae’n siŵr ymysg un o gyflogwyr mwyaf yr etholaeth.
Mae’n ddiddorol fod blaen y daflen y gorffen gyda’r ymbil sentimental yma:
Flynyddoedd yn ôl, cynrychiolwyd yr ardal hon gan y Rhyddfrydwr enwog, David Lloyd George. Gyda’ch help chi, rwy’n gobeithio roi llais cryf i’r ardal.
Tu mewn
Ar y tu fewn fe ganolbwyntir ar bedwar pwnc penodol sef i.) prinder tai cyngor, ii.) cadw swyddfeydd post gwledig, iii.) pris petrol ac iv.) cadw tafarndai lleol ar agor.
Mae’r daflen yn dra effeithiol yn y modd y mae’n deillio yr argyfwng tai cyngor i bolisi y Ceidwadwyr yn yr 80au o’u gwerthu ffwrdd ac yna methiant Llafur ers hynny i ail adeiladu stoc newydd o dai. Mae’r daflen yn nodi y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn rhoi cyfalaf i gynghorau ail godi stoc o dai ar rhent newydd. Dwi’n cefnogi’r polisi yma. O ran y Swyddfeydd Post, maen nhw’n cydnabod pwysigrwydd y Swyddfeydd i lawer o bentrefi yn Arfon ac maen nhw’n addo cyllido’r Swyddfeydd lleol yma.
Mae eu polisi ar bris petrol yn ddifyr ac wn i ddim os ydy un o’r pleidiau eraill wedi mabwysiadu polisi tebyg. Dwi wedi ffafrio’r math yma o bolisi ers tro ac mae’n dda gweld fod y gwleidyddion yn dechrau trafod y posibilrwydd. Ar y cyfan dwi o blaid treth gweddol uchel ar betrol a hynny er mwyn ein hannog i ddefnyddio gymaint o drafnidiaeth gyhoeddus a phosib. Ond eto, mae’n rhaid cael system dreth sy’n cydnabod fod defnyddio modur yn fwy angenrheidiol i rai pobl na’i gilydd. Ac felly mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn awgrymu system dreth danwydd sy’n seiliedig ar eich ardal, eich gwaith a safon y ddarpariaeth drafnidiaeth gyhoeddus yn eich ardal. Felly mi fyddai treth ar danwydd yn llawer uwch i bobl sy’n byw yn Cathays ac yn gweithio ym Mae Caerdydd ac yn llawer is i bobl sy’n byw yn Ninorwig ond yn gweithio’n Rhyd Ddu. Dwi’n cefnogi’r polisi yma.
Dyluniad
Mae dyluniad y daflen yn hollol drychinebus, mae’n ddiflas ac mae’r palet lliwiau yn ddi-enaid. Dwi’n cofio Sarah Green yn y Brifysgol yn Aberystwyth run pryd a mi, ac mi oedd hi’n ferch ddigon trwsiadus, ond fydde chi ddim yn gwybod hynny o’r llun ohoni ar y daflen, dydy e ddim yn gwneud cyfiawnder a hi o’r hyn a gofiaf amdani!
Yn olaf
Un peth nad ydw i’n hoffi ydy fod yr ochr Gymraeg yn darllen:
“Newid sy’n gweithio i chi – adeiladu Cymru decach”
Ond fod yr ochr Saesneg yn darllen:
“Change that works for you – building a fairer Britain”
A dyna ydy fy mhroblem i gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol, er eu bod nhw’n blaid ffederal ac fod y polisïau sy’n cael eu cyflwyno yn y daflen yn digon dymunol, plaid Brydeinig ydyn nhw mewn gwirionedd. Mae’n anffodus mae dim ond yn Gymraeg maen nhw’n sôn am Gymru ac yn y Saesneg eu bod nhw’n dal i sôn am Brydain.
Am ba hyd y cloffwch rhwng dau feddwl?
Un am http://thestraightchoice.org