Ges i sioc a hanner bore ma ar ol canfod fod darllenwyr arferol y blog wythnos yma wedi codi o’r tua 50 arferol i dros 1,500! Ar ôl ychydig bach o ymchwil dyma ddarganfod pam, os digwydd i chi deipio “Sarah Palin Pro-Life Pro-Guns” i fewn i Google yna bydd y ddau ddolen cyntaf mae Google yn cynnig i chi yn dod a chi i fy mlog! Nid at y BBC, CNN nac ABC ond at fy mlog i! Dros yr wythnos ddiwethaf un o brif storiau newyddion y Byd yw Sarah Palin a’i daliadau felly maen dipyn o beth mae mlog i sydd ar frig Google ac yn esbonio pam fod dros 1,500 wedi ymweld a’r blog wythnos yma.

 

Yr hyn sy’n ddoniol wrth gwrs yw fod siwr a fod rhnyw 1,450 o’r 1,500 ddim wedi deall gair am yr hyn dwi wedi bod yn dweud am Palin oherwydd fod fy mlog yn Gymraeg. Tybed felly a yw pobl PR McCain a’r Gweiniaethwyr wedi cael gafael ar gyfieithydd i gyfieuthu fy mlog gan ei fod mewn lle mor freintiedig ar Google?

 

Doniol iawn, ond eto yn dangos pwer posib blogiau a gohebu annibynol.

Please follow and like us: