Cyhoeddwyd yr erthygl yma yn wreiddiol yn rhifyn Mai/Mehefin 2016 o Cristion. Cliciwch yma i danysgrifio.

Wrth i mi ysgrifennu’r geiriau yma mae sôn bod UKIP yn debygol o ennill ambell sedd yn Etholiadau Cymru a bod canran nid ansylweddol o Gymry yn bwriadu pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd fis Mehefin. Ag adleisio geiriau Saunders Lewis yn y Llenor yn 1927: ‘Ofn sydd arnaf wybod pa mor anewropeaidd y gall hyd yn oed arweinwyr meddwl Cymru heddiw fod.’

I Saunders nid oedd ‘Cymru’n bod namyn fel rhan o Ewrop’. Mae tuedd ynom i ddiffinio pwy ydym ni mewn perthynas ag eraill. Yn anffodus fel Cymry y duedd yw diffinio ein hunain mewn cyferbyniad â ‘nhw’ y “Saeson”. Y syniad goleuedig am Ewrop yw ei fod yn ein rhyddhau i ddiffinio ein hunain fel ein bod yn rhan o rywbeth yn hytrach nag yn bobol sydd ddim yn rhywbeth. Llawer gwell yw dweud ein bod ni’n Gymry yn Ewrop nag ein bod ni’n Gymry nid yn Saeson.

Mae’r syniad o undod organig drwy Ewrop yn eithriadol o bwysig i’n hunaniaeth ni fel Cymry sy’n arddel ffydd yng Nghrist. Cyn twf gwladwriaethau modern, yr hyn oedd yn diffinio Ewrop ac yn pennu ei ffiniau oedd terfynau Gwledydd Cred (Christendom). Yn 1964 dywedodd D. Myrddin Lloyd yn ei ysgrif ‘Cymru a Ewrop’ yn Efrydiau Athronyddol mai llwyddiant Islam a barodd i derfynau Gwledydd Cred syrthio’n daclus gyda ffiniau daearyddol cyfandir Ewrop yn y diwedd. Mae’n eironig braidd fod polemig gwrth-Foslemaidd yn ganolog bellach i naratif y rhai sydd eisiau chwalu’r freuddwyd Ewropeaidd.

Er i ni ymfalchïo yn ein treftadaeth Gristnogol Gymraeg, boed yn ei wedd Geltaidd Gatholig neu Brotestannaidd Anghydffurfiol, ni allwn wadu nad ydym yn perthyn i draddodiad mwy sy’n sylfaenol Ewropeaidd. Er y byddai Saunders Lewis, efallai, yn dadlau mai dim ond y Catholigion all hawlio’r fantell Ewropeaidd, gallaf dystio nad oedd llawer o bellter rhwng pulpud Protestannaidd fy mhlentyndod a drws Eglwys Wittenberg neu ddinas Genefa. Fel Cristnogion Cymraeg rydym yn ymwybodol iawn ein bod ni’n rhan o deulu Ewrop.

Efallai nad ydym wedi rhoi sylw teg i’r Pêr Ganiedydd fel un o’n Hewropeaid enwocaf. Yn ei waith Pantheologia, Neu Hanes Holl Grefyddau’r Byd mae Pantycelyn yn hiraethu am weld ei gyd-Gymry yn dod yn fwyfwy ymwybodol eu bod yn rhan o rywbeth mwy. Dywedodd D. Myrddin Lloyd amdano:

“Gwelai berygl crefyddol mawr yn yr agwedd meddwl hon, sef temtasiwn i weld ein ffurfiau crefyddol ni fel rhan o drefn natur, ac fe’n rhybuddia hefyd mai dinasyddion gwael a wnawn heb y weledigaeth ehangach o Ewrop a’r byd . . . ofnai’n fawr yr hunan-fodlonrwydd a darddai o wrthod cymryd o ddifri y byd y tu allan i Brydain, a chwilio am y norm yn unig o’i mewn.”

Yn ôl D. Myrddin Lloyd ‘proffwyd mawr Ewropeaeth fodern’ oedd neb llai nag Emrys ap Iwan: ‘Y mae’n werth, meddai, i Gymro fynd i Ffrainc pe na bai’n unig er mwyn ei gael ei hun mewn gwlad lle nad yw “I say” y Sais ddim yn hollol gyfystyr â “Fel hyn y dywed yr Arglwydd”’. Y mae gennym fel Cristnogion yng Nghymru draddodiad cryf felly o weld ein hunain fel cenedl ie, ond cenedl sy’n perthyn i deulu ehangach o genhedloedd na dim ond y genedl drws nesaf.

O ddychwelyd at yr arch-Ewropead ei hun, Saunders Lewis, gallwn fel Cristnogion werthfawrogi’r grymoedd ideolegol sydd ar waith yn y naratif cyfoes ynglŷn â chenhedloedd a sofraniaeth. Yn un o ddogfennau sylfaen Plaid Cymru yn 1926, Egwyddorion Cenedlaetholdeb, esboniodd Saunders mai cenedlaetholdeb oedd y broblem! Fel y mae sawl Cristion, o Saunders i R. Tudur Jones i Rowan Williams, wedi ceisio dangos, y mae sawl math o genedlaetholdeb ar gael yn archfarchnad yr ideolegau. Ceir y math sinistr mewnblyg sy’n dangos ei hun, ar y gorau, yng ngwleidyddiaeth rad a thrahaus Nigel Farage, ac ar y gwaethaf, ym mhenllanw hyll y Drydedd Reich. Ond y mae yna genedlaetholdeb arall hefyd, y math o genedlaetholdeb sy’n ddigon hunan-hyderus i fod yn gwbl gyfforddus wrth ei weld ei hun yn rhan o deulu’r cenhedloedd, yn rhan o Ewrop.

Ond tybed oes angen i ni wahaniaethu rhwng hen wareiddiad Ewrop a’r Undeb Ewropeaidd fel sefydliad modern? Ydy hi’n bosib talu gwrogaeth i’r naill a gobeithio am ddiwedd y llall? Tybed beth fyddai gan Saunders, y rhyddewyllysiwr gwrth-wladwriaethol, i’w ddweud am y lefiathan biwrocrataidd ag ydyw’r Undeb Ewropeaidd? Fe wyddom mai ei ddelfryd economaidd ef, pa mor naïf bynnag ydoedd, oedd gweld Cymru’n troi cefn ar ei diwydiannau a chanolbwyntio ar amaethu. Ag ystyried mai’r Undeb Ewropeaidd, i raddau helaeth, sy’n dal y Gymru amaethyddol rhag syrthio i ddinistr llwyr, efallai fod hynny’n awgrymu sut y byddai’n pleidleisio? Ond wedyn, wn i ddim a fyddai ystyriaethau mor faterol ac ymarferol â hynny yn llywio ei farn!

I orffen ar nodyn ysgafn, efallai y cawn ddymuno’n dda i’r Cymry hynny fydd yn dilyn galwad Emrys ap Iwan i fynd i Ffrainc i brofi Ewrop yr haf yma. Yn benodol profi Pencampwriaeth Bêl-droed Ewrop gyda Chymru wedi llwyddo i gyrraedd y gystadleuaeth am y tro cyntaf ers 1976. Fel mae’n digwydd, mae Cymru’n chwarae yn erbyn Lloegr yn y gystadleuaeth wythnos yn unig cyn y Refferendwm ar Ewrop – eironi dramatig y byddai Saunders y dramodydd mae’n siŵr yn falch ohono.

Please follow and like us: