Dwi wrthi ar hyn o bryd yn sgwennu traethawed yn cymharu SL a Lloyd George. Dwi newydd ddarllen pethau sy’n gwneud i SL swnio’n frawychus o debyg i Margret Thatcher!
Dyma ddywed Foley am Thacher…
Margaret Thatcher not only had an agenda of her own, she had one that was not shared by most of here party – let alone by much of the country
A dyma wedodd RWJ am SL….
..coleddai Saunders Lewis syniadau sydd nid yn unig yn groes i anian trwch yr aelodau cyfoes [o Blaid Cymru], ond hefyd i eiddo mwyafrif aelodau a chefnogwyr y Blaid hyd yn oed pan oedd ef yn llywydd arni… coleddai Saunders Lewis syniadau a fyddai, o’u harddel fel polisi, yn ei gwneud hi’n gwbwl amhosib i’r Blaid obeithio am lwyddiant…
Reit debyg yn dydyn?!