Dwi newydd ddod ar draws www.sellaband.com gwefan lle medrwch chi wrando ar demo’s bandiau ac os ydych chi’n hoffi yr hyn dy chi’n clywed medrwch chi ddod yn ‘gredadun’ a chyfrannu $10 tuag at gronfa i’r band dan sylw fynd i fewn i stiwdio i recordio LP. Wedi i fand gael 5,000 o ‘gredinwyr’ maen nhw’n mynd i’r stiwdio ac yna yn dychwelyd i’r wefan i werthu y cynnyrch proffesiynol ac mae’r elw yn cael ei rannu rhwng y wefan, yr artist a’r ‘credinwyr’ hynny wnaeth fuddsoddi ynddyn nhw i ddechrau.

Mae’n syniad rhagorol yn fy nhyb i. Dwi’n ceisio dyfalu os ydy hi’n bosib setio rhywbeth tebyg fyny i fandiau Cymraeg. Dydy codi digon o arian i dalu band i recordio LP cyfan ddim yn realistig ond o bosib fod codi digon o arian i anfon band ifanc Cymraeg i stiwdio broffesiynol am ddiwrnod yn ddigon realistig. Rhyw 25 o ‘gredinwyr’ bydd eu hangen i anfon band ifanc Cymraeg i’r stiwdio am ddiwrnod. Gallaf i setio’r wefan fyny a’r talidau drwy Paypal ond yr hyn na fuasw ni’n medru rhoi yn ôl byddai dividends i’r ‘credinwyr’ – er basw ni’n gobeithio y byddai ‘credinwyr’ cerddoriaeth Gymraeg yn fodlon buddsoddi £10 heb ddisgwyl dim byd nol heblaw am glywed deunydd y band wedi iddynt recordio. Diddorol byddai clywed eich sylwadau?

Please follow and like us: