Ar fore oer o wanwyn cyrhaeddais ychydig yn gynnar i gyfarfod yn y Cyngor Llyfrau. I arbed gorfod gwneud mân siarad arhosais yn y câr ryw ychydig i ladd amser wrth sgrolio twitter. Dyma sylwi fod rhywun yn eistedd yn y car o ’mlaen i a’r hyn oedd yn rhyfedd oedd ei fod ar ben ei hun ond yn eistedd yn sedd y passenger. Dros y munudau nesaf bum yn dyst i brysurdeb rhyfeddol. Cywiro’r goler wen, gofal arbennig wrth dacluso’r gwallt yng ngolwg drych y car, ac yna’n goron ar y cyfan estyn sawl modrwy fawr a’u gosod yn ddefodol ar ei fysedd; yna naid o’r car a cherdded yn urddasol tuag at fynedfa Castell Brychan.
Oedais am ryw ychydig cyn ei ddilyn, yn rhannol er mwyn cadw’n anhysbys y ffaith mod i wedi bod yn dyst i’r ddefod. Cyfarch derbynnydd y swyddfa cyn arwyddo’r llyfr ymwelwyr a manteisio ar y cyfle i weld pwy oedd y cymeriad hynod yma arwyddodd i mewn munud neu ddau o’m blaen i – wel, wel, Gwynn ap Gwilym.
Yr achlysur oedd pwyllgor blynyddol y cylchgrawn Cristion, y cylchgrawn y bues i, Menna a’n ffrind Gwenno yn ei olygu ers blwyddyn. Wrth i’r cyfarfod weithio trwy’r agenda roedd ganddo ambell sylw pigog am lithriadau iaith ac fe fynegodd ei siom hefyd na roesom unrhyw sylw i ddatblygiadau’r ddeialog rhwng yr eglwysi cyfamodol (deialog na wyddwn i, fel Bedyddiwr, ddim am ei bodolaeth hyd yn oed!). Y cymeriad unigryw hwn oedd awdur y nofel gwbl ysgubol y ces i’r hamdden i’w fwynhau wythnos diwethaf: Sgythia – Hanes Dr John Davies Rheithor Mallwyd.
Dydw i ddim yn ddarllenwr nofelau fel rheol a dwi ‘rioed wedi astudio llenyddiaeth felly darllen y nofel oeddwn i o ongl lled bersonol fel math o reithor – wel, Gweinidog anghydffurfiol – sydd hefyd yn ymddiddori mewn datblygiadau diwinyddol a chymdeithasol ac yn arbennig effaith y naill ar y llall. Oherwydd fy niléit roedd cymeriad John Dafis a’i weledigaeth gymedrol Galfinaidd yn apelio. Roedd lle’r nofel ar lwyfan hanes yn dal fy niddordeb hefyd – rhwng y Dadeni Dysg, y Diwygiad Protestannaidd a’r Rhyfel Cartref – oes y goleuo, tymor y chwyldro.
Credaf ei fod yn nofel hynod gyfoes hefyd, rydym ni’n byw trwy gyfnod cyfnewidiol o hanes lle mae byd olwg gwledydd cred (Christendom) yn dadelfennu o’n cwmpas ond dim un byd olwg credadwy wedi codi eto i gymryd ei le. Yn yr argyfwng gwacter ystyr hwn gwelwn gymdeithas lle mae pawb yn siarad ar draws ei gilydd wrth frwydro ar reng flaen y culture war diweddaraf sy’n difyrru’r twitterati ac yn ennyn twt twtian panedi Piwritanaidd selogion rhwydwaith menywod Cymru fel eu gilydd.
Roedd rhywun yn teimlo hiraeth yr awdur trwy’r nofel, byddai Gwynn wedi mwynhau cael bod yn Rheithor Ysgolheigaidd mewn canrif pan werthfawrogid y ffasiwn beth. Bu’n rhaid iddo, fodd bynnag, fodloni ar geisio gwasanaethu o’i orau pan roedd Cristnogaeth Cymru ar ei liniau. Nid teyrnged i John Dafis yn unig yw’r nofel ond talu gwrogaeth i gymwynas holl gyfnod gwledydd cred – y cyfnod hir hwnnw o hanes pan oedd cred mewn Duw a lle’r Eglwys mewn cymdeithas yn ddi-gwestiwn ganolog a hyd yn oed i rheiny oedd ddim yn danysgrifwyr i’r ffydd nid oedd dianc rhagddi oherwydd roedd holl ragdybiaethau’r gorllewin am dda a drwg, trefn a chyfiawnder a phob dim arall yn sylfaenol Gristnogol pin ai a oedd pobl yn ymwybodol o hynny neu beidio.
Mae’r nofel wedi ei lleoli yn ystod cyfnod ffurfiannol o hanes modern Cymru pan ddaeth i’r tir syniad newydd a pheryglus. Cenadwri John Dafis oedd y syniad diwygiedig y gall pobl ddod yn uniongyrchol at Dduw heb fod ag Esgob neu Frenin yn gyfryngwr – ‘cyfiawnhad trwy ffydd’ – ffydd yn Iesu Grist. Ei alwad i rannu’r neges hon oedd yn gyrru prysurdeb llenyddol ac ysgolheigaidd John Dafis a’i brif gymwynas oedd golygu a llywio ail gyhoeddi Beibl William Morgan sef y fersiwn o’r Beibl Cymraeg a ddefnyddiwyd gan yr eglwys hyd 1988. Am ganrifoedd nid oedd gan y Cymry ddim byd swyddogol yn eu hiaith eu hunain, ond roedd gennym ni ein Beibl. Nid oedd modd cyfathrebu a gweision y Goron yn Gymraeg ond roedd modd siarad â Duw a dyna, gellid dadlau, gadwodd y Gymraeg cystal cyhyd.
Mae’n feirniadaeth deg ar adegau fod ni blant y diwygiad Protestannaidd a’n pwyslais ar ‘gyfiawnhad trwy ffydd’ yn gallu bod mor nefol ein gwelediad nes ein bod o ddim defnydd daearol. Ond nid felly John Dafis, a dyma i fi oedd yn fwyaf cyffrous am ei bortread yn y nofel. Roedd gan John Dafis weledigaeth Galfinaidd grwn oedd yn golygu nad oedd ei weithgarwch wedi ei gyfyngu i bregethu a gweinyddu’r sacrament yn unig. Roedd yn fugail, yn wleidydd, yn beiriannydd sifil (cododd dair pont yn ardal Mallwyd!), yn Ustus Heddwch, yn addysgwr ac yn broto-sosialydd sefydlodd ryw fath o wladwriaeth les leol o fewn ei blwyf i ddarparu ar gyfer y tlawd. Yr hyn a geir yw stori am efengyl Duw – a’i was John Dafis – yn chwyldroi ardal wyllt afreolus ac ofergoelus braidd (dyma yw’r “sgythia”) yn lle ychydig yn fwy gwaraidd a gobeithiol. I fi fel Gweinidog yr efengyl mewn oes mor gyfnewidiol ac ansicr roedd yn fy atgoffa i o’r hyn y gall gweinidogaeth ffyddlon a diwyd ei chyflawni beth bynnag fo cyd-destun yr oes.
Wrth i’r nofel brysuro tua’i therfyn mae’r Rhyfel Cartref wedi cychwyn ac er bod cydymdeimlad naturiol John Dafis gyda’r Seneddwyr nid yw’r John Dafis sy’n hynafgwr cyfforddus ei fyd erbyn hyn yn llwyr gyfforddus ac eithafiaeth y Piwritaniaid. Tybed a oedd Gwynn ap Gwilym yn trio dweud rhywbeth wrthym am sefyllfa’r eglwys heddiw? Gwynn yntau yn gwbl uniongred ei gredo, yn eangfrydig “efengylaidd” hyd yn oed; ond eto yn gofidio am ymchwydd ffwndamentaliaeth o fewn rhengoedd yr eglwys gyfoes. Tybed?
Os oedd John Dafis yn cloffi rhwng dau feddwl roedd cydymdeimlad seneddol ei blwyfolion yn ddigon clir gydag ysbryd gwrthryfel yn y gwaed yn dilyn helynt Gwylltiaid Cochion Mawddwy genhedlaeth yn gynt. Mae un darn o ddeialog yn arbennig o bwerus i’m tyb i wrth iddo ddangos sut y plannodd diwinyddiaeth Brotestannaidd John Dafis ym meddwl y werin yr hyn daethai i fod cenedlaethau wedyn yn radicaliaeth Gristnogol gwleidyddol. Dyma un o’r rhesymau pam mai anghydffurfwyr nid eglwyswyr oedd y rhelyw o werin Meirion o fewn rhai cenedlaethau:
“Fy hun, mi fyddwn in ddigon parod ar sawl cyfrif i fod dan awdurdod y Senedd. Y drwg ydi bod y Senedd yn nwylo Piwritaniaid eithafol. Pe baen nhw’n cael eu ffordd, châi’r un offeriad dderbyn degwm mwy nag un plwy. A be ddôi ohono i wedyn?”
“Dydi o ddim yn iawn bod personiaid yn byw’n fras ar gefn y werin,” mentrodd Ffowc.
“Ond mae’r werin yn elwa hefyd,” atebodd John. “Mi wyddost dy hun, Ffowc, cymaint o gymorth yr ydw i wedi ei roi i dlodion y plwyf yma.”
“Mi fyddai’n well gan y tlodion fod ag arian dan eu rheolaeth nhw’u hunain,” meddai Hywel, “na gorfod derbyn elusen gan eraill. Dull o reoli ydi rhoi elusen.”
Ie, dyma werin oedd dan sawdl y drefn a’r eglwys Brotestannaidd, efallai yn anfwriadol, yn rhoi iddynt yr hawl i gwestiynu Brenin ac Esgob a maes o law cwestiynu pob dim.
Tua diwedd y nofel clywn fod John yn teimlo ‘ei fod yn mynd yn rhy hen i fedru dod i ben a therfysgoedd yr oes.’ Tybed a’i dyna sut roedd Gwynn ap Gwilym yn teimlo wrth iddo baratoi teipysgrif y nofel ychydig cyn ei farwolaeth ef ei hun? Tybed a oedd Gwynn, fel John, yn teimlo ychydig allan o le mewn byd ac eglwys oedd yn newid yn gynt nag y gallai ddygymod a hi? Neu, fel holodd genhedlaeth yr alltud wrth afonydd Babilon: “Sut y medrwn ganu cân yr ARGLWYDD mewn tir estron?” (Salm 137.4) Yn sicr mae’n deimlad cyffredin i nifer fawr ohonom. Sut y gallwn ddod a gair o dosturi i mewn i fyd sy’n mynnu perffeithrwydd ond yn cynnig dim maddeuant? Sut y gallwn ddod a gwirionedd i fyd o wirioneddau? Sut y gallwn ddod a goleuni i ganol tywyllwch? A sut y gallwn wareiddio sgythia heddiw?
Wel, efallai mai neges amlwg bywyd John Dafis a chymwynas Gwynn i ni yw ein hatgoffa mai wrth ein traed mae dechrau’r gwaith. Er ei ragoriaethau fel ysgolhaig a proto was sifil, cymwynas fwyaf John Dafis oedd dangos mae ei alwad bwysicaf oedd bod yn Weinidog y Gair yn ei Blwyf. Ac er iddo godi pontydd (yn llythrennol!) gwaith ysbryd Duw yw cymell pobl i’w croesi a dod ar lwybr ffydd. Daeth y nofel hon a mwynhad dwfn i mi, ac fe ddaeth hefyd a math o iachâd.