Sion Ifan

Roedd hwn yn ŵr ifanc arbennig iawn. Rydym ni Gristnogion yn rai gwaeth na neb am gecru a gweld bai a gwendidau yn ein gilydd ond gallaf ddweud ar fy nghalon na chlywais neb erioed yn taro cwyn nac yn gweld unrhyw fai yn Sion. Prin iawn yw’r bobol hynny. Roedd yn ymgorfforiad o’r dadeni Cristnogol sydd wedi cerdded dros Gymru yn y blynyddoedd diwethaf, roedd yn Annibynnwr o ran traddodiad, yn gweithio i’r Presbyteriaid ond yn efengylaidd ei sêl wrth sôn am Iesu. Mewn gair, Crist oedd yn bwysig nid crefydd.

Hawdd yw diystyru a labelu’r gwaith yr oedd Sion a Choleg y Bala yn ei gylch fel “gwaith plant a ieuenctid” ond os arhoswn am funud fe ddaw’n berffaith glir fod hwn yn waith pwysig, onid y genhadaeth bwysicaf a mwyaf sy’n digwydd yng Nghymru heddiw. Pa genhadaeth arall yn y Gymru Gymraeg all ddweud eu bod nhw wedi derbyn cannoedd, ie cannoedd, trwy eu drysau yn y flwyddyn diwethaf i glywed am y Gwaredwr? Roedd Sion yn gennad ar bennaf dîm cenhadu Cymru a dyna sy’n gwneud y golled hon yn golled genedlaethol yn ogystal ag un bersonol i’w rieni, ei chwaer a’i gyfeillion.

Ar ôl astudio yn Ysgol Dyffryn Teifi ac yna ym Mhrifysgol Bangor yr aeth Sion i weithio i Goleg y Bala, bu yno ers 2002. Roedd ei gyd-weithwyr yn dweud wrtha i ei fod e’n rhoi ei holl egni i mewn i’w waith ac eu bod nhw yn gorfod erfyn arno ac ei berswadio i gymryd gwyliau – mae hynny yn dweud y cyfan am Sion a’i ymrwymiad a’i gariad at ei waith.

Maen nhw’n dweud fod y llwynog yn dod gyda’r nos heb i neb ei ddisgwyl. Ac yntau yn marw mewn damwain anesboniadwy o drist ac yntau ond yn saith ar hugain mlwydd oed rydym ni’n gwybod yn iawn pa mor gyfrwys yw’r llwynog yn mynd a Sion cyn ei amser. Ond mae yna obaith a chysur ac o adnabod Sion a chlywed ei sêl dros ei Warder dyna fyddai ei ddymuniad ef i’r rhai mae wedi ei adael ar ôl gofio. Mae’r gobaith yn glir yn y pennillion yma, rhai a gannwyd ochr yn ochr a Sion droeon yn y Bala:

Yng nghroth y bedd claddwyd y Gwir,
Goleuni’r Byd mewn beddrod ddu;
Ffrwydrodd o’r bedd, daeth gwawrddydd clir
Ar atgyfodiad Iesu cry.
A’i Goncwest Ef yw nghoncwest i,
Rwy’n eiddo’i Grist, mae’n eiddo i mi;
Nid oes gan angau golyn mwy,
Fe’m prynwyd trwy ei werthfawr waed!

Nid ofnaf fyw na marw mwy
Crist dorrodd afael angau tlawd,
Rhwng fy nghenhedliad hyd fy medd
Iesu yw Arglwydd fy holl rawd.
Er cryfder Uffern, cynllwyn dyn,
Rwy’n gadarn ynddo Ef ei Hun;
Bob dydd o’m hoes, hyd nes y daw
Safaf am byth trwy allu Crist.

Mae’r golled yn affwysol yn enwedig i’w deulu ond y gobaith wrth i’r Cristion wynebu’r daith olaf yw mai’r Tad sydd wrth y llyw. Diolch i Dduw am Sion, ei gymeriad a’i waith.

Please follow and like us:

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.