Mae’r we wedi cael ei ddefnyddio fel arf defnyddiol gan Blaid Cymru yn yr etholiad yma. Darlledu darllediadau gwleidyddol ar eu gwefan a cynnig lawr-lwythiadau o’i maniffestoau ayyb… Ond ei chwaer blaid yr SNP yn yr Alban sydd wedi bod mwyaf arloesol wrth ddefnyddio’r we wrth lansio SNP TV. Dim ond propaganda un-ochrog gewch chi ond rhywsut maen nhw’n llwyddo i guddio hynny yn reit effeithiol. Bob diwrnod ceir y newyddion diweddaraf am eu hymgyrch ac fe gyflwynir rhywun enwog neu ddynion busnes blaenllaw sy’n cefnogi’r ymgyrch bob dydd. Sean Conery lansiodd SNP TV. Pan glywes i am y syniad yn wreiddiol roeddwn ni’n amheus ac yn meddwl y buasai yn amaturaidd ac o ganlyniad yn edrych yn naff – ond chware teg mae’r SNP wedi llwyddo gyda’r fenter yma. Llongyfarchiadau – beth am i Blaid Cymru drio tro nesaf?

Mae’r tensiwn yn cynyddu yma yn Aberystwyth ond ma gennai rhyw deimlad ym mer fy esgyrn fod y gwynt yn chwythu y ffordd iawn. ‘Cyfiawnder a ddyrchafa genedl’ – Diarhebion 14:34

Please follow and like us: