Tra’n gyrru trwy Fanceinion yr wythnos hon roeddwn yn digwydd gwrando ar gyfweliad Andy Burnham ar y Podlediad News Agents. Burnham yw Maer Etholedig Greater Manchester. Cyd-ddigwyddiad llwyr oedd i’r podlediad hwn ddod ymlaen wrth i ni yrru trwy Fanceinion. Neu oedd rhywun yn trio dweud rhywbeth?

Dywedodd Burnham ei fod “wastad i’r chwith o Lafur Newydd” ond heriodd cyflwynydd y podlediad ef a dweud rhywbeth fel: “Wel, doedd e ddim yn ymddangos fel yna pan oedde ti yn San Steffan.” Atebodd Burnham yn ostyngedig: “Digon teg, ond ers hynny rydw i wedi magu hyder ac rwy’n teimlo y gallaf nawr siarad allan mwy a gwneud safiad ynglŷn â beth yw fy ngwerthoedd a’m gwleidyddiaeth go-iawn.” Rwy’n aralleirio yma, ond dyna yn gyffredinol oedd pwyslais yr hyn yr oedd yn ei ddweud.

Yn naturiol, arweiniodd hyn i fi wneud rhywfaint o fola syllio fy hun. Ac wrth edrych yn ôl dros fy 12 mlynedd cyntaf fel arweinydd eglwysig, efallai nad ydw i wedi bod yn ddigon hyderus yn fy ngwerthoedd a’m gweledigaeth fy hun ac wedi methu gosod fy marc gan boeni beth fyddai pobl yn ei feddwl a sut y byddent yn ymateb. Y broblem gyda’r diffyg hyder hwnnw yw ei fod yn aml yn dod o ‘ofn dynion’ sy’n aml yn golygu peidio â dilyn yr alwad y mae Duw wedi’i rhoi ar eich bywyd.

Un o’r rhesymau pam mod i efallai wedi gweld hyn yn heriol a sut mae wedi cyfrannu at fy ‘burnout’ yw nad yw fy uniongrededd hael erioed wedi ffitio’n daclus mewn unrhyw un traddodiad o fewn yr Eglwys. I rai o’r byd efengylaidd nid wyf yn ddigon diwygiedig, i eraill yn fy enwad rwy’n efengylwr i’w drin gydag amheuaeth. Mae rhai yn fy ngweld fel carismatig peryglus, mae eraill wedi rhoi’r argraff i mi nad ydw i’n ddigon agored i’r Ysbryd. Mae rhai yn meddwl fy mod i’n defnyddio’r Eglwys i wthio fy ngwleidyddiaeth a’m hagenda gymdeithasol, mae eraill yn meddwl nad ydw i’n ddigon radical o ran gwerthoedd y Deyrnas. Mae’r lle canol hwn rwy’n ei alw’n “uniongrededd hael” yn aml yn le peryglus oherwydd fy mod yn cael fy nhynnu i gyfeiriadau gwahanol o dymor i dymor a, heb un traddodiad i alw’n gartref, gall hefyd fod yn lle unig.

“But don’t look back in anger
I heard you say”

Wrth i mi adfer fy iechyd a gobeithio dychwelyd i’m galwad fel arweinydd eglwysig gobeithio y gallaf ‘do an Andy Burnham’, magu hyder a bod yn gyfforddus gyda phwy ydw i a siarad fy meddwl (a’m calon) gan beidio ag ofni dynion a pheidio â theimlo pwysau i fod yr hyn nad ydw i a dilyn dim ond yr hyn y mae Duw wedi fy arwain iddo. Bydd hynny er lles fy iechyd personol, a gobeithio lles yr Eglwys hefyd.

“Take that look from off your face
You ain’t ever gonna burn my heart out”

********

Whilst driving through Manchester this week I happened to listen to Andy Burnham’s interview on the News Agents Podcast. Burnham is the Greater Manchester elected Mayor. It was just a coincidence that this podcast came on as we were driving through Manchester. Or was it?

Burnham said that he was “always to the left of New Labour” and the podcast host pushed back saying something like: “Well, it didn’t seem like that when you were in Westminster.” Burnham humbly replied: “Your right, but since then I’ve grown in confidence and I feel I can now speak out more and make a stand about what my values and politics are really about.” I’m paraphrasing here, but that was the feel of what he was saying.

Naturally, this led me to do some soul searching myself. And looking back over my first 12 years in Church leadership I’ve perhaps lacked confidence in my own values and vision and failed to properly put my stake in the ground worrying what people would think and how they would react. The problem with that lack of confidence is that it often comes from ‘the fear of man’ that often means not following the call God has put on your life.

One of the reasons I have found doing this challenging and how it has contributed to my burnout is that within the Church my generous orthodoxy has never fitted in neatly in any one tradition. To some from the evangelical world I’m not reformed enough, for others in my denomination I’m an evangelical to be viewed with suspicion. Some see me as a dangerous Charismatic, others have given me the impression that I’m not open enough to the Spirit. Some think I just use the Church to push my politics and social agenda, others think I’m not radical enough when it comes to Kingdom values. Often being in this middle place I call “generous orthodoxy” is dangerous because I get pulled in different directions from season to season and, without a tradition to call home, it can also be a lonely place.

As I restore my health and hopefully return to my calling as a Church leader I hope I can ‘do an Andy Burnham’, grow in confidence and be comfortable with who I am and speak my mind (and my heart) not fearing man and not feel pressured to be what I am not and follow only what God is leading me to. That will be for the benefit of my personal health, and hopefully the Church too.

Please follow and like us: