Dydw i ddim yn cael pleser wrth feirniadu Plaid Cymru; ches i fy magu yn sŵn y Blaid a mor ddiweddar ag etholiadau diwethaf y Cynulliad yn 2007 fe rois fy ngwaith o’r neilltu am rai wythnosau i weithio dros ymgyrch Elin Jones yng Ngheredigion fel y gall swyddog ymgyrch Elin ar y pryd sydd bellach yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu’r Blaid dystio.

Ond fedra i ddim dioddef sbin gan y Blaid. Mae’r LCO iaith sydd yn y broses o fynd trwyddo yn arbennig o wan ac mae’r Blaid yn gwybod hynny’n iawn. Ond yn hytrach na chydnabod hynny’n blaen a bod yn fwy beirniadol o’r phartner mewn llywodraeth mae strategaeth gyfathrebu’r Blaid wedi mynd ati i drio dadlau fod pasio’r LCO yma yn rhan o wireddu addewid maniffesto. Dywedodd Bethan dros y Blaid heno ‘ma:

Pan ffurfiodd y Blaid lywodraeth, roeddem wedi ymrwymo i ennill statws swyddogol i’r Iaith Gymraeg, hawliau ieithyddol pan yn derbyn gwasanaeth a chomisiynydd i warchod yr hawliau yma. Mae’r ddeddfwriaeth yma yn ein caniatáu i gyflawni hyn oll yn ogystal â nifer o’n haddewidion maniffesto.

Spin yw hyn gwaetha’r modd oherwydd dydy’r LCO ddim yn ddigon eang i fedru llunio mesur fydd yn rhoi hawliau ieithyddol llawn i Gymry Cymraeg. Felly ni fydd yr LCO yn dod a’r Blaid, gwaetha’r modd, yn nes at wireddu’r addewid o hawliau ieithyddol llawn. Efallai eu bod nhw wedi gwneud y gorau o’r sefyllfa (ond mae hynny’n parhau i fod yn annigonol yn fy nhyb i) ond celwydd ydy honni fod yr LCO yma yn gwireddu addewid maniffesto. Pam y methwyd a llunio LCO ddigon cryf i wireddu’r addewid? Mae yna ddau opsiwn, (i.) naill ai fod y Blaid ddim a digon o asgwrn cefn neu (ii.) bod Llafur wedi eu rhwystro. Yn hytrach na nodi pa un o’r ddau sy’n wir (y tebygrwydd yw ei fod yn gymysgedd o’r ddau) mae’r Blaid yn lle yn gwthio’r peth dan y mat ac yn ceisio dweud fod yr addewid wedi ei anrhydeddu yn wir.

Medr unrhywun sydd wedi darllen yr LCO weld yn gwbl glir na ddaw unrhyw fesur gaiff ei lunio o fewn rhychwant yr LCO a hawliau ieithyddol llawn i ni.

Please follow and like us: