Roedd gen i Sul rhydd dros y penwythnos felly wnes i achub ar y cyfle i ddianc o Gaernarfon am rai dyddiau. Es i aros gyda Adrian, cyfaill i mi, sy’n hyfforddi am yr Offeiriadaeth yn Ridley Hall, Caergrawnt. Dyma oedd y tro cyntaf i mi ymweld â Chaergrawnt ac roedd ymweld â’r lle ac aros gyda myfyriwr yn un o Golegau’r Brifysgol yn agoriad llygad go-iawn. Culture shock os buodd un erioed. Roedd yr holl stereoteips yn cael eu cadarnhau; er enghraifft wrth gyrraedd nos Wener roedd strydoedd y dre’n llawn o fyfyrwyr ar y ffordd adref o’i darlithoedd ar eu beics yn gwisgo eu gynnau. Yna yn y swper nos Sadwrn yn y Coleg roedd pawb wedi gwisgo’n grand yn mwynhau pryd tri chwrs yn yfed Port y Coleg gyda pobl yn gweini arnom!
Ond gan fod Adrian yn hyfforddi am yr Offeiriadaeth yr hyn wnaeth greu’r argraff fwyaf arna i oedd y gwahanol weddau ar Anglicaniaeth y dois ar eu traws. Er mod i’n ddisgynnydd uniongyrchol i’r brodyr Cranmer a bod fy Nhad yn Anglican a bod fy mrawd bellach hefyd yn gweithio i Eglwys Anglicanaidd rhaid i mi gydnabod fod y traddodiad yn parhau i fod yn dra estron i mi. Gair am Ridley Hall yn gyntaf: ces groeso cynnes iawn gan aelodau’r Coleg, roedd pawb yn hyfryd tu hwnt. Mae’r Coleg yn diffinio ei hun fel “Open Evangelical.” Dangos ffyddlondeb i’r ddealltwriaeth efengylaidd o’r ffydd Gristnogol ond eto yn gochel rhag ffwndamentaliaeth a lleihadaeth. Maen nhw’n diffinio beth maen nhw’n ei olygu wrth “Open Evangelical” ar eu gwefan yma. Mae hwn yn safbwynt dwi fy hun yn arddel ac felly roeddwn i’n teimlo’n gartrefol iawn ynghanol criw Ridley, yn ddiwinyddol beth bynnag, roedd y diwylliant Seisnig wrth gwrs yn gwbl estron.
Nid yw Ridley yn un o Golegau’r Brifysgol felly mae Adrian hefyd wedi cofrestru fel myfyriwr yng Ngholeg Peterhouse. Fel rhan o’i hyfforddiant o Ridley mae wedi ei leoli i wasanaethu fel rhan o dîm Capel Coleg Peterhouse. A dyma ddod at ran o Anglicanaieth nad oedd yn taro’r un tant gyda mi a’r hyn yn deuthum ar ei draws yn Ridley. Anghydffurfiwr ydw i rwy’n cydnabod, ond drwy astudio’r Beibl rwy’n argyhoeddedig y dylai Eglwys a Gwladwriaeth (a’i sefydliadau) fod wedi eu datgysylltu. Ac er mai Cristnogion wnaeth sefydlu Peterhouse nid Coleg Cristnogol ydyw mewn realiti heddiw – yn yr ystyr eu bod nhw’n derbyn y gorau nid derbyn y gorau o blith aelodau Eglwysig yn unig ac yn iawn felly. Ond eto roedd y Capel yn parhau i fod yn ganolog i fywyd y Coleg. Roedd y set-up yn dra estron i mi fel un sy’n credu y dylai Eglwys fod yn Eglwys y dylai Coleg fod yn Goleg, y dylai Ysgol fod yn Ysgol ac y dylai Gwladwriaeth fod yn Wladwriaeth. Dylai’r holl endidau hynny mewn cymdeithas, wrth gwrs, ddylanwadu ar ei gilydd ond eto mae annibyniaeth bob un yn bwysig i mi – yn fwyaf pwysig mae annibyniaeth yr Eglwys. I mi dylai’r Eglwys byth fod yn rhan o’r sefydliad, boed yn sefydliad addysgol neu lywodraethol ac felly roedd cael Capel o fewn y Coleg yn rhyfedd iawn i mi.
Wedi dweud hynny, roeddwn i’n cyrraedd Caergrawnt a meddwl agored ac felly yn ysbryd y dywediad when in Rome mentrais gyda Adrian i’r Foreol Weddi am 9.00yb yng Nghapel Peterhouse fore Sul. Roedd y gwasanaeth y dra uchel Eglwysig – proseswn dramatig i mewn gyda’r Deon yn gwisgo côt fwy amryliw na Joseff! Gweithio trwy’r Litwrgi wedyn mewn ffordd oedd, i mi beth bynnag, yn dra oer yn yr ystyr nad oedd rhywun yn cael amser i fyfyrio a meddwl drosto ef ei hun. Fel rhywun oedd ddim wedi profi gwasanaeth fel yna o’r blaen roeddwn i’n cael yr holl beth yn debycach i berfformiad neu seremoni nag addoliad a chyfle i ddysgu ac roedd y peth yn gwbwl anhygyrch i mi er mod i’n Barch. Ddr. felly anodd meddwl sut fyddai’r profiad i rywun heb gefndir Eglwysig o gwbl. Ond wedyn yr argraff a geir yw mai cynnal traddodiad ac nid lledu’r Deyrnas ydy pennaf agenda Peterhouse! Ond yn dilyn y gwasanaeth roedd pawb oedd yn bresennol yn cael brecwast ysblennydd gyda’i gilydd – roedd hwnnw yn hyfryd – ond oni fyddai modd dwyn ychydig o’r gymdeithas a’r cynhesrwydd oedd o gwmpas y bwrdd brecwast i mewn i’r oedfa ei hun?
Ymlaen wedyn erbyn 11.30yb i ail oedfa’r diwrnod yn Eglwys St Andrew the Great (neu Stag fel mae’n cael ei alw ar lawr gwlad). Eglwys Anglicanaidd unwaith eto ond roedd camu o Gapel Peterhouse i Eglwys Stag yn teimlo mwy fel camu o un grefydd i’r llall na chamu o un traddodiad i’r llall o fewn yr un grefydd. Mae Stag yn perthyn i draddodiad isel eglwysig o fewn Anglicaniaeth, mewn gair arall: efengylaidd. Roedd yr oedfa wnaethom ni ei fynychu dan ei sang, dros 500 yno mae’n siŵr. Am 10yb roedd y lle dan ei sang hefyd gyda 500 arall a’r lle bron yn llawn eto am 5yh, a teips gwahanol oedd yn mynd i bob oedfa felly dros y Sul roedd oddeutu 1,000 yn addoli yn Stag. Er bod arddull Stag yn agored a chyfoes doedd yr arddull ddim yn happy-clappy fel y cyfryw a dyna, efallai, sydd i gyfri rhywfaint am eu llwyddiant. Roedden nhw’n medru cyfathrebu’r efengyl ac addoli mewn idiom gyfoes heb y cringe factor sy’n dod gydag eglwysi mwy Pentecostalaidd efallai.
Mae llawer mwy gellid ei ddweud am fy mhrofiadau dros y penwythnos ond wna i orffen drwy nodi fod y math Anglicaniaeth y dois ar eu traws yn Peterhouse yn gyfyng iawn ei ddylanwad o’i gymharu â’r asbri a’r gobaith y dois ar ei draws yn Ridley a Stag ac mae Teyrnas Dduw yn sicr ar ei hennill oherwydd. Dwi felly’n gobeithio mae ysbryd Stag ac nid Peterhouse y bydd Adrian yn dod gydag ef adref i Gymru ar ddiwedd ei gwrs!