Papur NewyddFe es i weld State of Play heno ‘ma. Roedd e’n ffilm wych ond dwi ddim am drafod y ffilm ei hun ond yn hytrach dwi am siarad am yr hyn roedd y ffilm yn ei gynrychioli, neu yn hytrach yn ei gofnodi. Roeddwn ni’n gweld fod y ffilm yn cynrychioli diwedd cyfnod, diwedd cyfnod ym myd newyddiaduraeth a chyhoeddi gan fod oes papurau newydd, fel ‘dy ni yn gyfarwydd a hwynt beth bynnag, yn brysur ddod i ben. Roedd y ffilm yn dal rhamant a gwychder y byd cyhoeddi newyddion print i’r dim ac mae’r ffilm yn siŵr o gael ei weld fel tysteb anrhydeddus i’r cyfrwng mwyaf pwerus y gwareiddiad dynol ers o leiaf dwy ganrif. Roedd golygfa olaf y ffilm yn arbennig o bwerus, yr unig beth roeddech chi’n gweld oedd y broses o weld y papur yn cael ei gynhyrchu – roeddech chi’n gweld y platiau yn cael eu creu yna roeddech chi’n gweld y rollers yn dechrau troi yna’r palets yn cael eu llwytho ar y lori i’w dosbarthu.

Dyma ddiwedd cyfnod mewn hanes maen siŵr, a phan gaiff hanes newyddion print ei chofnodi gan genedlaethau i ddod ni fydd y Gymraeg i’w gweld yn agos – ni fyddw wedi bodoli. Cyfnod hir a phwysig yn natblygiad gwareiddiad a chafodd y Cymry byth eu papur eu hunain. Roeddem ni’n anweledig.

Please follow and like us: