Mae'n fore mawrth a dwi newydd ddychwelyd i safle'r Eisteddfod ar ol
bod am gawod ym mwll nofio Maindy. '1.70 am gawod, ond gwerth pob
ceiniog ar wythnos oer, gwlyb a drewllyd fel hwn! Mae'r prif faes a'r
maes ieuenctid yn lefydd braf, yr unig beth sy'n anffafriol ydy
pellter y maesydd parcio yn enwedig i rywyn sy'n gorfod cerdded ar hyd
y llwybrau wedi iddi nosi, maen beryglus iawn a dweud y gwir. Ond dyna
ni, dyna beth yw steddfid yn y ddinas!

Y newyddion mawr hyd yma wrth gwrs oedd camp Hywel i ennill Y Goron ac
ynte ddim ond yn 25!gwych!

Reit dwi wedi cyrraedd y maes nawr. Blogiad arall fory. Am ddrama Aled
Jones Williams efallai, yn mynd i'w gweld hi heno.

Please follow and like us: