Bore dydd Sadwrn ar Fighting Talk ar 5 Live aeth Colin Murray a’i westeion ati i drafod Steven Hawking a’i lyfr diweddaraf, The Grand Design. Dyma sut aeth y drafodaeth, mae’n ddarn byr iawn:
Er mai rhaglen ysgafn ydy Fighting Talk sy’n trafod y pwnc mewn ffordd ffwrdd a hi roedd Colin a’i westeion yn taro sawl hoelen ar ei phen mewn perthynas a honiad Hawkins ei fod wedi profi nad oes Duw.
Mae’n amhosib i wyddonwyr brofi nad oes Duw oherwydd fod Duw yn bodoli tu hwnt i ffiniau gwyddoniaeth. Nid rhywbeth gwyddonol yw ffydd, mae’n rhywbeth ysbrydol. Ac mae honni fod gwyddoniaeth yn medru gwrth brofi Duw yr un mor hurt a honni fod diwinyddiaeth yn ddisgyblaeth a fydd, yn y diwedd, yn medru darganfod iachâd i bob cancr. Mae’n bwysig i Gristnogion dderbyn fod gan wyddoniaeth yr ateb i lawer o bethau. Ond mae’n bwysig i wyddonwyr gofio hefyd fod yna derfynau ar eu disgyblaeth ac fod yna rai pethau nad oes ganddi’r gallu heb sôn am yr awdurdod i gynnig atebion iddi.
Thema arall ddifyr sy’n cael ei drafod yn y clip o Fighting Talk yw fod y rhan fwyaf o bobl heddiw yn agnostics yn hytrach nag anffyddwyr o argyhoeddiad. Bellach grwpiau bach o bobl sy’n Gristnogion o argyhoeddiad, a grwpiau bach hefyd sy’n anffyddwyr o argyhoeddiad. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn agnostics – pobl sy’n credu fod Duw yn bodoli mwy na thebyg ond oherwydd nad ydyn nhw’n sicr maen nhw’n byw, i bob pwrpas, fel tase Duw ddim yn bodoli. Mewn gair, fel mae Colin Murray yn dweud, pobl sy’n eistedd ar y ffens.
Mae Colin Murray yn mynd ymlaen i ddweud fod rhywbeth i’w edmygu mewn anffyddwyr o argyhoeddiad ac rwy’n cytuno a hynny. O safbwynt y dystiolaeth Gristnogol o leiaf rydych chi’n gwybod lle ‘dy chi’n sefyll gyda anffyddwyr o argyhoeddiad. Her Cristnogion felly yw ceisio argyhoeddi mwy o’r agnostics i ddod oddi ar y ffens ar yr ochr sydd a meddwl gwir agored nag y medr Hawkin ddenu i ddod oddi ar y ffens ar ochr gyfyngedig y byd olwg gwyddonol.
Pwy yw Hawkin(s)? Ti’n cymysgu dy anffyddwyr fan hyn. Be mae Hawking yn ddweud yw ‘nad oes angen’ Duw i esbonio cread y bydysawd (na unrhywbeth arall yn y bydysawd). Hynny yw mae gwyddoniaeth ei hunan yn dangos sut all rhywbeth ddod allan o ddim byd a does dim angen y cysyniad o fod sy’n bodoli cyn a thu allan i’r cread (sy’n cael ei alw’n Dduw mewn crefyddau monotheistig).
Hawking! Wps!
Digon teg. Ond o’r hyn dwi’n deall (a tydw i heb ddarllen llyfr Dawking eto) mae ei theori yn mynd tu hwnt i faes ei ddisgyblaeth oherwydd mae nid esbonio gwyddoniaeth mae’n gwneud ond ensynio fod yng ngwyddoniaeth yr ateb terfynol i gwestiwn mawr bodolaeth. Ei ateb e yw honni nad oes rhaid gofyn y cwestiwn yn y lle cyntaf ond drwy ddweud hynny mae e yn ateb y cwestiwn, jest mewn ffordd sy’n sownio’n glyfar.