Roedd hi’n drist clywed am farwolaeth Stuart Cable, cyn-ddrymiwr y Stereophonics, yn ddim ond 40 heddiw. Er i mi hen golli diddordeb yn y Stereophonics ro’ ni’n drwm dan eu dylanwad nhw nol yn y 90au pan oeddw ni yn fy arddegau. Wn i ddim sawl gwaith wnes i wylio’r VHS oedd gena i o’r noson enwog yng Nghastell Caerdydd yn 1998.
Roedd Stuart Cable wrth gwrs yn un o gymeriadau amlycaf ‘Cool Cymru’ yn y 90au, symudiad a fuodd yn bwysig iawn wrth ennill pleidlais IE yn 1997.
Dyma’r perfformiad o Local Boy in the Photograph o’r cyngerdd yna fel teyrnged.
Please follow and like us: