Wel dydw i ddim yn cytuno gyda’r Ceidwadwyr ond heno yng Nghyfarfod Cyffredinol yr Undeb des i weld fod yna bobl lot gwaeth yn bod na phobol dydy chi jest ddim yn cytuno gyda hwynt. Un peth pwysig dwi wedi dysgu yn ystod fy nghyfnod yn Coleg yw mae nid eich gelyn yw’r gelyn pennaf ond yn hytrach y rhai difater sydd heb ystyried dadleuon na sefyllfaoedd o gwbl. Parthed Cymru a’r Gymraeg, nid yr Imperialydd yw’r gelyn mwyaf, ond yn hytrach Cymry diog a taeog. Parthed egwyddorau gwleidyddol – ma gennai fwy o barch at geidwadwyr (g fach) na phobol sydd ddim yn meddwl pethau trwodd ac jest yn ypsetio a dweud pethau hurt fel y digwyddodd heno.

O orfod dewis rhwng rhywun apathetig neu David Davies AS/AC i fod yn styc ar ynys gydag ef fe fuasw ni’n sicr yn dewis David Davies – sgwrs llawer mwy difyr.

Please follow and like us: