Mae’r profiad o Weinidogaethau dyddiau yma yn y Gymru Gymraeg yn brofiad rhyfedd ar y naw. Er bod pobl wedi tystio i drai Anghydffurfiaeth ers degawdau, ers y Pandemig mae’n teimlo fel bod pethau yn dirywio a newid ar spid.

Roedd ddoe (Dydd Sul 1 Hydref 2023) yn un o’r diwrnodau rhyfedd yna pan wnes i brofi’r hyn oedd yn teimlo fel anadl olaf yr hen drefn ond eto profi rhywbeth o ddechrau’r dyfodol hefyd. Diwrnod lle’r oedd gen i fwy o gwestiynau nag atebion ar ei diwedd hi!

Yn y bore roeddwn i’n arwain oedfa yng Nghaersalem Caernarfon (er nad fi oedd yn pregethu) ac roedd cynulleidfa dda o rywle rhwng hanner cant a trigain yno. Yr hyn oedd yn fwyaf calonogol oedd bod y rhan fwyaf o’r gynulleidfa yn deuluoedd a phobl ifanc. Ymlaen wedyn erbyn 2yp i Seion Talysarn, croeso cynnes iawn a gwrandawiad arbennig yn ôl yr arfer (heb sôn am chwarae grymus ar yr hen organ!), ond cynulleidfa o ddim ond 4. Croesi’r Dyffryn wedyn draw i Ebeneser Llanllyfni erbyn 4yh ac arwain oedfa i 9. Ac yna yn ôl i Gaersalem erbyn 6yh lle’r oedd tua 30 yno ar gyfer noson fwy anffurfiol yn cael ei arwain yn wych gan Hannah a Lowri – dwy arweinydd ifanc arbennig yn eu 20iau.

Mae colli’r ‘Gymru Anghydffurfiol’ yn brofiad poenus i lawer, mae’r cyd-destun diwylliannol ac ysbrydol yn newid llawer cynt nag y mae’r eglwys yn gallu dal fyny efo. ​​Mae’r newid diwylliannol ac ysbrydol dramatig yma sydd wedi taflu Cristnogion a’r Eglwys o ganol pethau i ymylon cymdeithas wedi bod yn brofiad trawmatig ac wedi gadael llawer o eglwysi a’u harweinwyr mewn syndod mud.

Mae’n ddefnyddiol i feddwl am y newid a’r shifft yma wrth ei weld fel bod yr eglwys yng Nghymru yn mynd mewn i gyfnod o alltudiaeth (exile). O fframio’r peth felly dwi’n meddwl y gallwn ni gymryd ysbrydoliaeth i’n bywyd a’n cenhadaeth heddiw. Yn lle galaru am yr hyn o gollwyd, gallwn dderbyn y realiti a dysgu byw a bod yn ffyddlon yn y cyd-destun newydd yma. Cwestiwn pobol Dduw yn Babilon wrth iddyn nhw hel atgofion am yr hyn a fu oedd:
“Sut allen ni ganu caneuon yr ARGLWYDD ar dir estron?” Salm 137:4
A dyna yw’r cwestiwn sydd angen i ni gnoi cil drosto fel Cristnogion yng Nghymru heddiw. Does dim budd mewn galaru am yr hyn a gollwyd, ond mae cyfle wrth ddysgu canu eto i’r Arglwydd yn y foment lle trefn rhagluniaeth wedi ein gollwng.

Please follow and like us: