Mae nifer o eglwysi a Gweinidogion wedi cysylltu gyda fi’n ddiweddar yn gofyn yr un cwestiwn sef: “Sut ydym ni’n darlledu ar y we o’r capel?”. Yn hytrach na mod i’n gorfod cael yr un sgwrs drosodd a throsodd dyma erthygl fer yn esbonio’r prif egwyddorion a’r camau sydd angen eu cymryd.

Y ffordd symlaf – ond ddim y gorau

Y ffordd fwyaf syml y ddarlledu oedfa ar y we yw drwy osod ffôn neu dabled sydd wedi ei gysylltu â’r we o flaen y sawl sy’n arwain yr oedfa, clicio go live ar Facebook a dyna ni – rydych yn darlledu i’r byd! Dyma’r ffordd symlaf a rhataf ond ni fydd y sain a’r llun yn wych, ond efallai mai dyma’r opsiwn gorau i gapeli heb bobl dechnegol i helpu. Mae posib gwneud hyn wrth ddarlledu dros Zoom hefyd, bydd Zoom yn opsiwn da os mae eich byrdwn yw cadw cysylltiad gyda aelodau ond bydd darlledu yn gyhoeddus ar Facebook a YouTube yn opsiwn gwell os ydych chi am rannu eich oedfa tu hwnt i’ch aelodaeth a’ch cynulleidfa arferol.

Y ffordd well – ond yn fwy cymhleth

Y ffordd orau o fynd o’i chwmpas hi yw drwy gysylltu camera a sain i’ch gliniadur ac yna darlledu yn defnyddio meddalwedd darlledu pwrpasol fel OBS (am ddim ac yn gweithio ar Mac a PC ond ychydig yn drafferthus i ddefnyddio) neu Ecamm Live (gwell a haws i’w ddefnyddio, ond yn costio £9 i £15 y mis a dim ond yn gweithio ar Mac).

Os ydych chi eisiau darlledu i Facebook a YouTube yr un pryd bydd angen cyfri Restream.io hefyd fydd yn £15 pellach y mis.

Ar OBS ac Ecamm mae modd cynnwys elfennau wedi eu recordio ymlaen llaw fel perfformiadau o emynau – defnyddiol iawn mewn cyfnod lle na cheir canu cynulleidfaol. Mae YouTube yn llawn tutorials yn dangos i chi sut i ddefnyddio OBS ac Ecamm.

Cofiwch brofi’r system ymlaen llaw rhag cael eich siomi a’ch cynhyrfu ar fore Sul cyn i oedfa gychwyn.

Camera

Mae posib defnyddio Camera fel hwn fel eich gwegamera i ddarlledu

Gan fod gwe gamera eich gliniadur yn sownd i’ch gliniadur bydd angen camera allanol arnoch. Mae modd cael gwegamerau allanol sy’n cysylltu trwy USB neu efallai fod gennych gamera eisoes yn y tŷ y bydd modd defnyddio? Byddwn ni’n defnyddio ein hen gamera Canon 7D a’i gysylltu gyda’r gliniadur trwy USB. Mantais defnyddio DSLR fel y Canon yw y bydd modd defnyddio zoom lens ac felly gall y camera fod yng nghefn y capel a ni fydd rhaid i’r camera fod yn wyneb y pregethwr a thynnu sylw’r gynulleidfa fydd yn y capel. Nid pob camera sy’n medru cysylltu gyda OBS ac Ecamm felly gwnewch eich gwaith ymchwil ymlaen llaw yn arbennig os ydych chi’n prynu camera o’r newydd.

Sain

Enghraifft o ddesg sain sy’n medru cysylltu gyda’ch gliniadur drwy USB.

Y peth pwysicaf am gwe ddarlledu oedfa yw cael sain da. Rhaid i’r meicroffon fod mor agos i’r siaradwr/pregethwr a phosib, fel arall bydd y sain yn swnio fel eich bod mewn ogof. I gysylltu eich meicroffon i’r gliniadur bydd angen naill ai:

  1. Desg Sain y mae modd ei gysylltu i’r gluniadur fel sound interface dros USB. Awgrymaf y Soundcraft Notepad 12-FX Analog USB Mixer am tua £130. Dyma’r opsiwn os oes angen i’r sain gael ei ddarlledu a mynd i system sain yn yr ystafell yr un pryd.
  2. USB audio interface. Awgrymaf Audient ID4 Audio Interface am tua £115. Dyma’r opsiwn gorau os mai dim ond anfon sain i ddarlledu sydd angen.
  3. Desg Sain ddigidol. Awgrymaf Zoom LiveTrak L-8 am tua £400 i eglwysi llai. A’r Allen and Heath Qu-16 am tua £1400 i eglwysi mwy. Dyma’r opsiwn gorau i eglwysi fydd eisiau darlledu mwy na dim ond llais/pregethwr – bydd desg ddigidol yn rhoi’r opsiwn i chi ddarlledu band cyfan neu nifer o siaradwyr gwahanol ac yn rhoi’r gallu i chi roi mix gwahanol i’r darllediad a’r ystafell fyw.

Yn eich meddalwedd ffrydio/darlledu (OBS neu Ecamm) bydd angen i chi ddewis eich dyfais sain fel yr Audio Imput yn hytrach na Built-in Audio eich gliniadur.

Meicroffon

Y math gorau o feicroffon i siaradwyr/pregethwyr

Os ydy eich pregethwr yn gyfforddus yn gwisgo ‘over the ear’ microffon diwifr (‘Madonna Microffon’ fel dwi’n eu galw) dyna’r ffordd o gael sain gorau.

Opsiwn arall yw meicroffon hand held diwifr gan gofio fod rhaid i’r pregethwr ddal y meicroffon yn go agos at ei geg (gan gofio peidio rhannu’r meicroffon efo neb arall oherwydd COVID!).

Y trydydd opsiwn os yw’r pregethwr yn aros yn ei bulpud neu du ôl i lectern ydy goosneck condenser.

Mae pris meicroffons yn amrywio’n fawr ac mae’r safon yn amrywio gyda hynny. Ond peth pwysig i gofio yw hyn: mae dynamic microffons angen bod yn agos iawn i’r ceg, mae’n nhw’n rhatach i’w prynnu ac yn gweithio gyda’r rhan fwyaf o systemau sain. Ond gall condenser microffons weithio droedfedd i ddau i ffwrdd o’r ceg ond mae’n nhw’n ddrytach ac angen phantom power ac felly ddim yn gweithio gyda pob system sain. Byddwch yn barod i wario o leiaf £150 ar feicroffon da, ond hyd at £600 am y gorau.

Rhyngrwyd

Yn amlwg, bydd angen cysylltiad gyda’r we i fedru darlledu. Bydd angen cyflymder rhyngrwyd all ddarparu upload speed o oleiaf 4Mbps. Mae hynny yn gyflymach nag y mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr broadband arferol yn ei ddarparu felly bydd naill ai angen cysylltiad feibroptig arnoch neu gysylltu dros rwydwaith 4G symudol. Gan nad oedd llinell ffôn yn ein capel ni rydym wedi prynu router lle mae modd rhoi sim card ynddo ac felly darlledu dros rwydwaith 4G y byddwn ni. Hyd yma mae’r cyflymder (gyda rhwydwaith EE) i weld llawn cystal â chysylltiad Feibroptig.

Gair am y cynnwys

Reit ar ddechrau’r pandemig dwi’n cofio rhywun yn ymateb a thafod yn y boch wrth weld llawer o eglwysi yn mynd ar lein am y tro cyntaf a dweud fel hyn: “An irelevent church services dosen’t suddely become relevent just because it’s online”. Gair i gall i ni’n gyd yn y fan yna. Rhown y pwyslais ar gyfathrebu’r Gair tragwyddol yn effeithiol rhagor na gwneud yn siŵr fod gennym yr offer a’r dechnoleg ddiweddaraf.

Please follow and like us: