Yn Luc 4 rydym ni’n cael hanes Iesu yn y Synagog yn Nasareth ac fel testun mae’n dewis rhai adnodau o Broffwydoliaeth Eseia:
“Mae Ysbryd yr Arglwydd arna i,
Luc 4:18-19 (yn dyfynnu rhannau o Broffwydoliaeth Eseia)
oherwydd mae wedi fy eneinio i
i gyhoeddi newyddion da i bobl dlawd.
Mae wedi fy anfon i gyhoeddi fod y rhai sy’n gaeth i gael rhyddid,
a phobl sy’n ddall i gael eu golwg yn ôl,
a’r rhai sy’n cael eu cam-drin i ddianc o afael y gormeswr,
a dweud hefyd fod y flwyddyn i’r Arglwydd ddangos ei ffafr wedi dod.”
Mae dewis Iesu o destun yn rhoi syniad i ni o beth oedd yn bwysig iddo fe – er mwyn i ni hefyd ystyried beth ddylai fod yn bwysig i ni. Wrth ystyried dewis Iesu o destun gallwn fentro holi: beth yw’r efengyl? Beth yw’r newyddion da roedd Iesu’n ei gyhoeddi? Wrth i Iesu ddyfynnu Eseia rydym ni’n cael blas o werthoedd ac efengyl Teyrnas Dduw.
Mae’r newyddion da (efengyl) mae Iesu’n ei rannu yma yn gyflawn a chrwn iawn. Mae’n drwm ei bwyslais ar ryddid, yn arbennig i’r tlawd a’r gorthrymedig. Mae’n llawn neges am iachad ar bob lefel.
Oes, mae yna fwy i’r efengyl nag sy’n cael ei ddarlunio yn y geiriau yma o Eseia. Ond mae’n bwysig i ni oedi a nodi pa agwedd o’r efengyl mae Iesu’n dewis ei bwysleisio yn ei bregeth (o fath) gyhoeddus cyntaf.
Oherwydd petae rhywun yn gofyn i’r rhan fwyaf o Gristnogion yn y gorllewin – yn sicr rhai o’r un traddodiad protestanaidd a fi – dros y degawdau diwethaf grynoi beth yw prif ffocws yr efengyl nid y geiriau yma o Eseia y bydde chi’n clywed. Yn hytrach, byddech wedi cael clywed neges am bwysigrwydd ffydd bersonol er mwyn cael mynd i’r nefoedd ar ôl marw.
Er bod Iesu mewn rhannau eraill o’r efengylau yn siarad am bwysigrwydd ymateb a ffydd bersonnol dwi’n meddwl ei fod yn arwyddocaol fod Iesu yn dewis dechrau o leiaf gyda’r ochr fwy cosmic – y darlun mawr – o’r newyddion da Cristnogol o Deyrnas Dduw yn torri trwyddo.
Nid fod efengyl bersonnol maddeuant pechodau yn anghywir, dim ond fod yna lawer iawn mwy na hynny i’r efengyl Gristnogol. Nid yw credu y cawn weld Iesu rhyw ddydd ar ôl marw yn anghywir, ond nid dyna’n unig yw swm a sylwedd yr efengyl Gristnogol.
Mae yr hanes yma yn ein gwahodd i gael golwg llawer mwy o’r efengyl Gristnogol nac y mae llawer wedi setlo amdano.Mae yr hanes yma yn sefyll fel her i efengyl rad unigolyddol yr ugeinfed ganrif, ac yn wahoddiad i weld a chredu efengyl hanesyddol y canrifoedd. Mae’n wahoddiad i roi Cristnogaeth “Fi a Iesu, Iesu a fi” i ffwrdd a chofleidio yn lle ehangder, dyfnder a chadernid y ffydd apostolaidd.
Mae yr hanes yma yn dechrau gyda’r proclemasiwn anhygoel gan Iesu o Lyfr y Proffwyd Eseia. Ond mae’n gorffen gyda’r dorf yn troi yn erbyn Iesu ac yn ceisio ei daflu dros ochr clogwyn!
Sut mae esbonio fod newyddion mor dda, wedi arwain at ymateb mor ddrwg?
Nid y newyddion da (yr efengyl) sy’n cael ei gyhoeddi wnaeth dramgwyddo pobl Nasareth ond yn hytrach y realiti fod y newyddion da yn newyddion da i’r ddynoliaeth gyfan nid dim ond iddyn nhw.
Inclusivity yr efengyl sydd yn eu tramgwyddo.
Yn debyg i Elias yn tosturio at y wraig weddw yn Saraffeth yn ardal Sidon a hanes Eliseus gyda Naaman o wlad Syria yn cael ei iacháu. Mae Iesu hefyd yn dangos fod y newyddion da yn newyddion da i’r ddynoliaeth gyfan – i’r arall yn ogystal a bod yn newyddion da i bobl fel ni.
Dyma sy’n cythruddo pobl Nasareth a dyma hefyd, yn anffodus, sy’n cythruddo rhai Cristnogion heddiw sydd a golwg rhy gyfyngedig o faint a dyfnder efengyl Iesu Grist. Pobl sy’n methu a gweld fod Duw a’i efengyl ar waith mewn traddodiadau gwahanol i’w traddodiad nhw heb sôn am fod ar waith yn y byd yn fwy cyffredinol.
Mae Iesu yn gwthio pobl Nasareth i ail-feddwl sut maen nhw’n gweld a deall yr efengyl – ac maen nhw’n gwrthod gwneud hynny. Nid yn unig eu bod yn gwrthod – ond maen nhw’n gwylltio cymaint nes eu bod bron a thaflu’r ymgnawdoliad perffaith o’r efengyl – Crist ei hun – dros glogwyn.
Mae’r adnodau mae Iesu’n dyfynnu o Eseia’n gorffen drwy gyhoeddi fod blwyddyn ffafr yr Arglwydd wedi dod. Y neges yw fod Duw o’n plaid. Mae o blaid y ddynoliaeth a’r cread mae’n dymuno ei hadfer – ac mae gwahoddiad i bawb i mewn i’r Deyrnas. “Edrychwch, dw i’n gwneud rhywbeth newydd! Mae ar fin digwydd …” (Eseia 43:19a)