Bellach mae Osian yn y carchar yn Altcourse, Lerpwl. Rwy’n digwydd adnabod un o Gaplaniaid y carchar hwnnw sef Nan Wyn ac mae hi’n Gymraes ac felly maen siŵr y bydd Osian yn gweld tipyn ohoni ac yn cael cyfle i sgwrsio’n Gymraeg. Mae Nan yn grêt.


View Larger Map

Pan gyrhaeddais i adre o’r achos Llys ddydd Mercher roedd yna lythyr gan Swalec i Mr. Lluuyd (sic) yn fy nisgwyl. Gychwyn yr wythnos roeddwn ni wedi eu ffonio nhw er mwyn newid o Scottish Power i Swalec gan eu bod nhw yn rhatach. Agorais y llythyr ac ynddo roedd fy nghytundeb. Waeth i mi gydnabod mae nid y ffaith ei fod yn Saesneg oedd y peth cyntaf a’m trawodd ond yn hytrach fod y cyfradd yn uwch na’r hyn a addawyd i mi dros y ffôn felly dyma fi’n codi’r ffôn yn syth er mwyn gweld beth oedd yn mynd mlaen.

Dyma fi’n gofyn i gael siarad gyda rhywun yn Gymraeg a dyma nhw’n dweud fod yn rhaid i mi ffonio rhif gwahanol. Dyma roi’r ffôn i lawr ac yna trio eto gyda’r rhif “arbennig” union fel taswn ni’n drwm fy nghlyw neu rhywbeth. Ar ôl tipyn o oedi dyma ngalwad i’n cael ei ateb ond yn Saesneg. Dyma fi’n holi eto am gael siarad yn Gymraeg a dweud mod i wedi ffonio yn defnyddio’r rhif Cymraeg y tro hwn. Dyma nhw’n fy rhoi i aros tra eu bod nhw yn chwilio am siaradwr Cymraeg. Yna ymhen rhai munudau dyma nhw’n dod nôl a dweud nad oedd unrhyw siaradwyr Cymraeg ar gael gan eu bod nhw ar eu hawr ginio!

Roedd rhaid gwneud fy musnes yn Saesneg felly. Dyma fi’n holi iddyn nhw anfon y cytundeb i mi yn Gymraeg, dyma’r ddynes yn diflannu eto am rai munudau cyn dychwelyd a’m holi i os y dywedwyd wrtha i fod modd ei gael yn Gymraeg? Na, doedd neb wedi dweud wrtha i fod hyn yn bosib, ond esboniais mod i wedi cymryd hynny yn ganiataol gan fod Scottish Power yn gohebu a mi yn Gymraeg. Atebodd hi drwy ddweud nad oedd modd i mi dderbyn y cytundeb yn Gymraeg. Dywedais wrthi stwffio ei chontract a datgan mod i am aros gyda Scottish Power ac fod eu hagwedd tuag at y Gymraeg wedi peri i mi beidio newid darparwr wedi’r cyfan.

Maen dda o beth mod i’n medru siarad gyda rhywun o Scottish Power yn Gymraeg yn ogystal a derbyn fy nghytundeb a’m bil ganddynt yn Gymraeg. Ond maen ofnadwy o beth nad ydy’r gwasanaeth yna ar gael trwy’r sector. Pam ddylwn i fel siaradwr Cymraeg orfod dewis fy narparwr trydan ar sail iaith yn hytrach nag ar sail y pris gorau fel pawb arall? Mae ffurf ar gam-wahaniaethu fan yma yn erbyn Cymry Cymraeg.

Wrth gwrs, roedd y ddrama fach yma yn cael ei chwarae i lawr y lein ffôn gyda Swalec ar yr union run adeg ag yr oedd Osian yn teithio i lawr yr A55 tuag at Lerpwl mewn fan Securicor. Pa flwyddyn yw hi? Ers pryd mae gyda ni ddatganoli? Ers pryd mae cenedlaetholwyr mewn llywodraeth?

Os ydych chi’n gwsmer i Swalec ffoniwch nhw i ofyn am eich cytundeb yn Gymraeg. Os ydych chi’n gwsmer i Scottish Power ffoniwch nhw i gymryd mantais o’u gwasanaethau Cymraeg os nad ydych chi’n gwneud yn barod.

Rhif Swalec: 0800 052 5252 (llinell “Gymraeg”)
Rhif Scottish Power: 0845 272 1212 (opsiwn “1” i gael yn Gymraeg)

Please follow and like us: