IMG_0244.JPG

Weithiau maen rhaid dod i stop gyda’r gwaith er mwyn miniogi’r cyllill a dychwelyd yn ôl at y gwaith gydag awch ac ysbryd newydd. Rhyw deimlad fel yna ches i wrth ddeffro bore ma – roedd yn rhaid i mi gymryd hoe a dianc o Fangor i’r mynyddoedd am ychydig bach i gael seibiant a nerth ac i wrando ar lais Duw. Tra ar y mynyddoedd yng nghanol yr Eira ches i fy nghymell i droi at hanes Elias ar Fynydd Horeb yn 1 Brenhinoedd 19. Dyma sut mae’r hanes yn mynd:

Ofnodd Elias a dianc am ei einioes nes dod i Beerseba, oedd yn perthyn i Jwda. Gadawodd ei was yno, ond aeth ef yn ei flaen daith diwrnod i’r anialwch. Pan oedd yn cymryd rest dan ryw bren banadl, deisyfodd o’i galon am gael marw, a dywedodd, “Dyma ddigon bellach, O Arglwydd; cymer f’einioes, oherwydd nid wyf fi ddim gwell na’m hynafiaid.” Ond wedi iddo orwedd a chysgu dan ryw bren banadl, dyna angel yn ei gyffwrdd ac yn dweud wrtho, “Cod, bwyta.” A phan edrychodd, wrth ei ben roedd cacen radell a jwg o ddŵr; a bwytaodd ac yfed a mynd nôl i gysgu. Daeth yr angel yn ôl ‘to a’i gyffwrdd a dweud, “Cod, bwyta, rhag i’r daith fod yn ormod iti.” Cododd e’ a bwyta ac yfed; a cherddodd yn nerth y bwyd a diod hwnnw am ddeugain diwrnod a deugain nos, hyd at Horeb, mynydd Duw. [1 Brenhinoedd 19:3-8]

Roedd angen i mi, fel Elis gynt, gymryd hoe heddiw i roi gwefr newydd yn y batris, yn ysbrydol yn ogystal ac yn gorfforol. Mae cymryd seibiant bob hyn a hyn er mwyn eich arfogi i weithio i’r Arglwydd yn bwysig. Wedi’r cyfan doedd yr Arglwydd ei hun ddim yn gweithio saith diwrnod yr wythnos!

Dyma fwy o luniau o Gwm Idwal bore ‘ma:

IMG_0242.JPG

IMG_0245.JPG

IMG_0243.JPG

Please follow and like us: