Er na fu Kenavo (myspace) erioed yn boblogaidd nac yn llwyddiannus iawn fe ges i dipyn o hwyl yn cyfansoddi, recordio a gigio chydig bach rhwng 2003-2006. Haf diwetha ges i ychydig ddiwrnodau o recordio stwff newydd gyda Cynan ond yn hytrach nag ail-lansio Kenavo fe benderfynom ni gael enw newydd i’r prosiect sef Society Profiad. Oherwydd ein bod ni’n byw tua 200 milltir i ffwrdd o’n gilydd nawr dydy’r prosiect heb ddatblygu rhyw lawer dros y flwyddyn ond haf yma dy ni wedi ein gwahodd gan Aled Ifan i fynd ar daith fechan rownd Cymru y penwythnos cyn y steddfod. Bydd hi’n ddifyr gweld sut bydd y cyfan yn gweithio’n fyw. Cewch draw i wefan y Society Profiad i wrando ar MP3 a ymlwybro draw i wefan y daith i weld y dyddiadau.
Please follow and like us:
Rhys, mae o’n deud yn y Maniffesto ar wefan Society Profiad bo chi isio cyhoeddi’r newyddion da drwy ffyrdd newydd, ond os dach chi’n deud ‘ych bod chi’n fand cristnogol, yna dim ond cristnogion sydd am fynd i’ch gweld chi a dim ond y cristnogion hynny sy am glywed y gair ma nhw’n ei adnabod beth bynnag!
ond tasach chi’n marchnata’ch hunain fel unrhyw fand arall, mi fyddai eich cynulleidfa bosibl chi yn cynyddu’n ofnadwy. a di hynny ddim yn golygu na fysach chi’n cael canu caneuon am gristnogaeth am ffydd. mae ‘na lwythi o’r artistiaid enwoca erioed yn canu am eu ffydd a’u crefydd nhw, fel bob dylan, leonard cohen, bono, bruce springsteen, johnny cash a lot o’r rhei country a blues erill.
Ac i fi, er nad ydw i’n dilyn unrhyw grefydd yn benodol, mae rhai o ganeuon briliant gan fandia a chantorion sy’n marchnata eu hunain fel roc, gwerin, blues, country neu be bynnag wedi gwneud mwy dros unrhyw ffydd sydd gen i nac unrhyw fand ‘cristnogol’ erioed.
Heia Dan Solomon,
Sylwadau difyr a chywir iawn. Wn i ddim beth ydy diben neu weledigaeth hir dymor y Society Profiad. Yn sicr nid y diben yw bod yn fand SRG nodweddiadol oherwydd yn syml does dim amser gyda ni i roi mewn i’r prosiect felly gwneud rhyw bethau one off fel y daith yma bob hyn a hyn fyddw ni yn hytrach na cheisio gigs cyson ar hyd a lled y wlad.
Hefyd wn i ddim os mae diben y cyfan yw “cenhadu” beth bynnag – dwi’n meddwl mae gweld y peth fel prosiect oddi mewn ac i ddiwygio’r eglwysi ydym ni fydd wedyn yn gwneud eglwysi yn fwy apt i wneud cenhadaeth yn hytrach na bod Society Profiad yn gwneud cenhadaeth eu hunain. Reformers not Revivalists yllu.
Hefyd, nid “band” ydy’r Society Profiad beth bynnag ond yn hytrach “symudiad”!
Rhys