Ar ôl dau ddiwrnod da o ffilmio Torri Syched 002 a 003 fe ddois i weld pa mor anodd mae hi wedi mynd i ffilmio mewn gofodau fyddech chi’n cymryd eu bod yn gyhoeddus. Ben bore Llun dyma ni’n clywed nad oeddem ni’n llwyddiannus yn ein cais i gael ffilmio tu mewn i Ganolfan Dewi Sant 2 oherwydd fod rheolwr y ganolfan siopa yn poeni ein bod ni’n neud ffilm am y commercialisation of Christmas. Doedde ni ddim, gew chi weld beth fydd neges y ffilm pan gaiff ei ryddhau mewn ychydig wythnosau. Roedden nhw’n gofyn am gael gweld y sgript ond wrth gwrs roedd y sgript yn Gymraeg ac felly dwi’n siŵr eu bod nhw’n dweud “na” ar y sail fod nhw jest ddim yn deall y sgript. Felly, mewn ffordd, roedden nhw’n cam-wahaniaethu yn erbyn criw cynhyrchu Cymraeg.
Drwy ragluniaeth roedd hi’n fore sych felly roedd modd ffilmio tu allan, ond ar ôl hanner awr yn unig o ffilmio tu allan y Ganolfan fe ddaeth dynion diogelwch mawr draw yn holi beth oeddem ni’n gwneud a swnian ein bod ni ar dir preifat! Roeddem ni tu allan i Lyfyrgell Gyhoeddus Caerdydd! Ar ôl i’r dynion diogelwch gyfnewid sawl sgwrs walkie-talkie fe gawsom ni lonydd ganddyn nhw i ffilmio tu allan am weddill y bore.
Ben bore Mawrth roeddem ni eisiau ffilmio mewn multiplex Sinema. Roeddem ni wedi siarad dros y ffon gyda un o reolwyr Showcase Cinema, Nantgarw ac fe ddywedodd hi y byddai popeth yn iawn. Ond fore Mawrth roedd yna reolwr gwahanol on-shift ac fe aeth e’n wallgof ar ôl ein gweld ni’n cychwyn ffilmio tu allan. Dywedodd fod y rheolwraig arall yn anghywir i ddweud y cawn ni ffilmio yna ac y byddai rhaid iddo ffonio prif swyddfa Showcase yn Llundain i gael caniatâd. Ar ôl aros rhyw awr cawsom ni wybod na chawn ganiatâd i ffilmio tu allan hyd yn oed. Fe wnaethom ni gario mlaen i ffilmio tu allan beth bynnag rownd y gornel.
Ond roedd angen ffilmio un rhan tu mewn i Sinema felly dyma drio Vue yn Merthyr. Ffonio eu prif swyddfa yn Llundain cyn cael ein rhoi trwodd i’r rheolwr lleol ac yntau’n dweud “No problem, mate, come streight over!”. Y wers fan yma yw mae Vue yw’r cwmni sinema sy’n credu fwyaf mewn datganoli a da o beth yw hynny!
Fel y gwelais i hi roedd yna ddau brif ffactor oedd yn ein effeithio o ran cael ein hasslo. Yn gyntaf y ffaith fod y sgript yn Gymraeg ac felly fod y dynion diogelwch a’r rheolwyr yn amheus. Yn ail, ein bod ni’n griw cynhyrchu bach yn defnyddio Panassonic P2’s ac felly, rhywsut, yn edrych yn doji ac amhroffesiynol. Roedd strydoedd Caerdydd yn bla o fyfyrwyr cyfryngau a newyddiaduraeth yn chwarae gyda P2’s a Z1’s y diwrnod hwnnw. Pe tase camerâu ysgwydd mawr gyda ni a fan lloeren wedi parcio ger llaw mae’n siŵr y byddai’r ddelwedd yna wedi rhoi mwy o hygrededd i ni ac y buasem ni’n cael llonydd gan y dynion diolchgarwch. Doedde nhw ddim i wybod, amwn i, fod ein cyfarwyddwr, Iwan England, yn foi uchel ei barch yn y diwydiant! Ond yn olaf, dwi’n siŵr fod ein profiadau dros y diwrnod diwethaf yn dweud llawer am yr erydu ar ofodau cyhoeddus yn ein trefni a’n dinasoedd dros y blynyddoedd diwethaf.