Mae’r Americanwyr wrth eu boddau gyda’u ceir, ac felly i grwydro America go-iawn mae’n rhaid i chi hefyd deithio o gwmpas mewn car. Tu allan i’r prif drefi a’r dinasoedd mae trafnidiaeth gyhoeddus yn waeth na’r Gymru wledig felly roedd rhaid heurio car am gyfnod o’n taith. Dros y 10 diwrnod diwethaf rydym ni wedi bod yn teithio mewn car drwy Virginia, Gogledd Carolina ac ychydig yn Tennessee. Yn ymweld a rhai ffrindiau (gweler y blog diwethaf) ond yn bennaf yn crwydro trwy fynyddoedd yr Appalachian yn rhannol ar y Blue Ridge Parkway.
Gan ein bod ni’n teithio trwy ardal wledig fe wnaethom ni heurio Nissan Rogue gan Dollar ond trwy www.rentalcars.com (rhyw fath o price comparison website ar gyfer heurio ceir). Dydy’r Nissan Rogue ddim ar y farchnad yn Ewrop – roedd o’n fwy na’r Qashqai ond yn llai na’r X-trail dwi’n meddwl, rhywle yn y canol. A da ein bod ni wedi mynd am gar mawr oherwydd i gyrraedd rhai o’r llefydd diarffordd roedden ni’n aros roedden ni’n gyrru lawr gravel roads a sawl twll dwfn – fel gyrru i weld Arwel a Lowri Eithinog i chi sy’n gwybod am eu lôn nhw!
Dechreuo ni’r daith yn Asheville, NC, dinas cool iawn, ond ar y ffordd fe wnaethom ni stopio i ddringo Chimney Rock a chael cyfle i dynnu un o luniau eiconig yr ardal:
Mae Asheville yn ddinas sy’n enwog am fod yn fangre i bobl “amgen” yn y mynyddoedd. I esbonio’r peth yn well: roedd pawb yna a barf, tatŵs ac yn trafod real ales. Dim ond noson cawsom ni yno, dan amgylchiadau eraill byddai hwn yn dre y gallem ni wedi mwynhau sawl noson ynddi dwi’n meddwl. Dyma hefyd y tro cyntaf i ni ddefnyddio Airbnb gan aros gyda chwpwl ar gyrion y ddinas. Lle braf mawr i ni ein hunain am bris da iawn. Syniad Menna oedd defnyddio Airbnb, roeddwn i’n amheus, ond doedd dim angen i mi boeni – roedd y profiad cyntaf yn un positif! Cawsom ni fwyd syml ond blasus yn Asheville yn FB, sef burger bar organig.
Ymlaen ar yr ail ddiwrnod i gyfarfod ffrindiau i ni yn Kingsport, Tennessee, ond teithio yna trwy’r Great Smokie Mountains. Yn anffodus doedd hi ddim yn ddiwrnod clir o gwbwl felly reit ar y top yn Clingmans Dome doedd yr olygfa ddim mor dda a gallai fod, ond ddim yn ddrwg chwaith!
Ar y ffordd i Kingsport roeddem ni’n gyrru trwy Gatlinberg, sef tref enedigol ein ffrind Nathan Ogle. Roedd hi’n braf gallu dweud ein bod ni wedi bod yno, ond yn llawn ddeall nawr pam fod well gan Nathan fyw yng Nghaernarfon. Roedd Gatlinberg fel Rhyl a Prestatyn ar speed! Ger Gatlinberg aethom ni am dro yn y goedwig gan weld dau arth du bach o bellter – roedd hwn yn brofiad swreal ac anhygoel – aethom ni nol ar hyd y llwybr i’r car cyn dod wyneb yn wyneb gyda’r fam!
Ar y trydydd diwrnod dyma fynd i ben Grandfather Mountain sef un o gopaon uchaf mynyddoedd yr Appalachian. Roedd modd gyrru car bron reit i gopa’r mynydd er ei fod bron yn 6000 o droedfeddi o uchel. Roedd hi’n nodweddiadol Americanaidd fod modd gyrru i’r top. Dyma’r olygfa o’r top, dydy e ddim yn edrych fel ein bod ni mor uchel a hynny gan fod yr holl gopaon o’n hamgylch yn uchel hefyd – mae’n edrych fel ‘rolling hills’ yn hytrach na ridge o fynyddoedd uchel.
Fe wnaethom ni hefyd fynd i weld Lindfill Falls y diwrnod yma. Ar ddiwedd y diwrnod yma dyma ni’n aros mewn Airbnb arall.
Ar y pedwerydd diwrnod dyma ymweld a chanolfan cerddoriaeth draddodiadol y mynyddoedd. Bluegrass. Gyda’r nos dyma fynd i glywed band Bluegrass yn chwarae yn Floyd. Fe wnaethom ni brynu CD un o’r bandiau mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd hefyd i wrando yn y car. Mae’n rhaid i mi gyfaddef er i mi roi cyfle i’r peth, nad ydw i wedi datblygu blas am gerddoriaeth bluegrass dros yr wythnos diwethaf. Efallai y byddwn yn dewis gwrando arno cyn gwrando ar gerdd dant, ond dim ond efallai!
Y noson yma dyma brofi Airbnb arall – y profiad mwyaf unigryw o dipyn. Caban bach yn y wlad gyda toiled mewn cwt ar waelod yr ardd a chawod (gynnes chware teg!) tu allan! Wedi dod dros y sioc cychwynnol roedd hi’n brofiad hyfryd a dweud y gwir, a trueni eto nad oedd cyfle i aros am fwy nag un noson.
Ar y pumed diwrnod dyma fynd i weld Marbry Mill, un o leoliadau arall eiconig y Blue Ridge Parkway a cherdded yn Rocky Knob cyn cyrraedd Roanoak erbyn y nos ac aros mewn Airbnb arall.
Er na wnaethom ni bob cymal o’n taith ar y Blue Ridge Parkway roedd dilyn llwybr y ffordd trwy’r mynyddoedd yn rhyw dempled da er mwyn teithio trwy’r ardal. Eto, dim ond yn America y byddai ffordd i geir yn barc cenedlaethol! Profiad hyfryd oedd gweld ardaloedd gwledig ac roedd hi’n braf cael car ein hunain er mwyn crwydro. Ond ar ôl gyrru dros 1500 o filltioedd mewn wythnos roedd hi hefyd yn braf gollwng y car nol yn Washington bore ‘ma er mwyn mwynhau rhai diwrnodau ar droed mewn dinas, rydym ni bellach wedi hedfan i New Orleans!