Un traddodiad ymneilltuol Cymreig does gen i ddim bwriad brwydro yn ei erbyn yw’r arfer o roi mis cyfan o wyliau i’r Gweinidog ym mis Awst bob blwyddyn. Fel rheol mae’r mis yna’n diflannu’n sydyn gyda’r ddefod flynyddol o fynd i’r Eisteddfod (am wythnos gyfan fel Cymro diwylliannol da), ymweld a theulu a mynychu o leiaf un – weithiau dau – gynhadledd Gristnogol sy’ mor gysylltiedig gyda gwaith yr eglwys nes eu bod mewn gwirionedd ddim wir yn wyliau o gwbl. Eleni dyma fradychu’r ddefod flynyddol a dianc i’r Unol Daleithiau am bum wythnos. Hwre!
Efrog Newydd, Philadlephia, Washington, ardaloedd gwledig Virginia, North Carolina, hedfan lawr i New Orleans a theithio’r arfordir lawr i Florida cyn hedfan i fyny i Chicago i ddod a’r daith i ben.
Dwi wastad wedi bod eisiau teithio i America, a hynny am sawl rheswm. Yn gynta’ jest yr ysfa i brofi beth sy’ mor gyfarwydd, yn rhy gyfarwydd i ni, ar y sgrin ac yn ein diwylliant poblogaidd. Y sŵn, y lliwiau, yr enwau.
Yn ail, mae gen i rhywfaint o ddiddordeb yng nghysylltiad y Cymry ac America – rhywfaint yn yr ystyr mod i wedi gwylio ffilm Gruff Rhys ond ddim cweit digon o ddiddordeb i ddarllen llyfrau Jerry Hunter (eto)! Ond mae gwir ddiddordeb gen i yn y tensiwn syniadol yn niwylliant Cristnogol/gwleidyddol y wlad. Ein plant ni ydy Cristnogion America ar y cyfan – ni’r Cymry oedd yn rhannol gyfrifol am fynd a Christnogaeth ymneilltuol allan yna, ac mae ein gwerthoedd ymneilltuol yn y bôn yn dod o’r run man – ond yna mae’r parxis wedi datblygu’n wahanol dros y ddau ganrif diwethaf. Dwi ddim wir yn disgwyl cael ateb i hyn, ond bydd y daith yn gyfle i gnoi cil a meddwl mwy dros y peth.
Yn drydydd, ac y rheswm pwysicaf yw’r awydd i dreulio amser da gyda Menna i ffwrdd o brysurdeb ein bywydau arferol o anarferol yng Nghymru. Amser i Dduw siarad gyda ni i ffwrdd o’r hyn sy’n gyffredin a dychwelyd i Gymru wedi ein llenwi eto gyda’i Ysbryd anghyffredin.
Mwy o flogio dros yr wythnosau nesa gobeithio.