Rydw i dal mewn sioc yn dilyn y newyddion trist am farwolaeth sydyn Euros Wyn Jones. Dim ond ers rhyw ddeg mlynedd rwy’n adnabod Euros ond bu’n ddylanwad mawr a cyson arna i yn ystod y blynyddoedd hynny.
Y cyswllt cyntaf ges i gydag Euros oedd yn ystod yr ymgyrch am Goleg Ffederal Cymraeg (yr ymgyrch arweiniodd i sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol). Roedd Euros yn frwd dros yr ymgyrch ac yn arbennig yn ei weld fel rhan o’r ateb i warchod addysg ddiwinyddol a Beiblaidd Cymraeg i’r dyfodol. Yna pan wnes i ddechrau’r broses fy hun o gael fy hyfforddi i’r Weinidogaeth roedd Euros yn un o fy athrawon yn y Coleg Gwyn. Er i mi ddysgu rhai gwersi pwysig ymarferol gan y tiwtoriaid eraill, Euros oedd yn rhoi’r sylwedd i ni. Roedd yn byrlymu o ddyfnder a chyfoeth y traddodiad Calfinaidd Cymraeg. A gyda chyn lleied o fyfyrwyr yn y Coleg Gwyn ar y pryd roedd llawer o’r sesiynau yma yn rhai un-wrth-un felly yn naturiol roedd y seminarau a’r darlithoedd yn aml yn troi yn seiat brofiad cyfoethog iawn gydag Euros.
Wedi i mi gychwyn fy ngweinidogaeth yng Nghaersalem Caernarfon fe barhaodd Euros yn ffrind da i mi, ac i Gaersalem fel eglwys hefyd. Roedd yn pregethu gyda ni bob rhyw chwe mis ac yn aml yn sleifio i mewn i gefn y gynulleidfa yn oedfa’r nos os byddai’n digwydd pasio heibio ar y ffordd adref i Langefni ar ôl pregethu rhywle arall yn y bore a’r pnawn. Roedd yn gwbl gyfforddus gyda ni, Fedyddwyr, yng Nghaersalem sy’n bwysig i’w nodi dwi’n meddwl. Er ei fod yn Annibynnwr mawr ac o argyhoeddiad nid oedd yn enwadwr yn yr ystyr cul – roedd yn ystyried yr undeb ysbrydol rhwng Cristnogion o argyhoeddiadau tebyg yn rhywbeth pwysicach.
Dros y ddwy flynedd diwethaf roedd yn cynnal dosbarth Groeg yng Nghaersalem bob pnawn Gwener, ond doeddwn i ddim digon dewr i fentro i’r dosbarth fy hun. A dyna pryd y gwelais Euros y tro diwethaf – pnawn Gwener bythefnos yn ôl. Roedd Euros yno gyda’i ddosbarth Groeg a fi’n ymaflyd codwm gyda peipen ddŵr yn brysur yn llenwi ein pwll bedydd ar gyfer bedydd trochiad y Sul dilynol. Roedd Euros wrth ei fodd yn busnesa ac yn tynnu fy nghoes y byddai powlen fach o ddŵr yn dipyn llai o drafferth. Chwerthin mawr!
Braint arbennig hefyd oedd cyd-weithio gydag Euros dros y flwyddyn ddiwethaf ar y gyfrol Blas ar Gristnogaeth Cymru sef cyfrol olaf R. Tudur Jones y gwnaeth Euros ei golygu a sgwennu pennod clo iddi. Bu Euros yn pwyso ar Aled Davies a fi am flynyddoedd i’w chyhoeddi ac mae rhagluniaeth ryfedd nawr yn adrodd i ni ddod i’w chyhoeddi, o’r diwedd, ond dim ond rai misoedd cyn i Euros farw ac ugain mlynedd ers i Dr. Tudur farw yn sydyn ac annisgwyl hefyd.
Ond y prif reswm i Euros ddod yn ffrind yn fwy nag athro i ni oedd trwy ein cyfeillgarwch gyda Gwenno ei ferch, Dafydd ei fab-yng-nghyfraith a John a Falmai, rhieni Dafydd. Yn dilyn dwy brofedigaeth lem roedd y teulu wedi profi’n barod roeddem ni’n gweld mwy o Euros o amgylch y lle yn ardal Caernarfon wrth iddo warchod ei wŷr ac ati. A thrwy hynny daethom i weld fod Euros yn berson crwn a diddorol iawn – nid oedd dim byd sych am ei Galfiniaeth! Yn gricedwr, yn Eisteddfodwr, yn gogydd cawl cennin heb ei ail, ac yn wneuthurwr diod Ysgawen bendigedig! Mewn ffordd roedd yn Galfinydd cwbl uniongred wrth ymhyfrydu a chael blas wrth addoli Duw ym mhob peth, nid dim ond mewn pethau ysbrydol pur.
Dwi mynd i golli Euros fel ffrind ac fel cefn yng ngwaith y weinidogaeth. Mae Caersalem hefyd yn colli ffrind. Ond yn fwy pwysig mae’r teulu yn colli Tad arbennig iawn. Ond fel Cristnogion nid ydym ni’n galaru fel rhai heb obaith a daw’r gobaith hwnnw i’r amlwg yn y peth olaf y rhannodd Euros ar Facebook sef geiriau Ann Griffiths:
Henffych fore
Y caf ei weled fel y mae.