Wythnos diwethaf wnes i wylio The Book of Eli, ffilm wedi ei leoli yn America mewn byd Ôl-Apocalyptig. Roedd cymdeithas wedi datgymalu’n llwyr ac anrhefn yn teyrnasu. Ond yng nghanol yr anwar roedd un dyn, Eli a oedd yn cael ei chwarae gan Denzel Washington, ar daith er mwyn delifro rhywbeth pwysig iawn. Ar hyd y daith roedd Eli yn dod ar draws pob math o rwystrau gan gynnwys dod ar draws dyn o’r enw Carnegie oedd am gael ei afael ar y llyfr pwysig oedd ym meddiant Eli, Carnegie oedd y dyn drwg yn y stori. Ymhen ychydig daeth hi’n amlwg mae’r eitem bwysig oedd ym meddiant Eli oedd yr unig gopi oedd ar ôl ar wyneb daear o’r Beibl. Gwyddai Carnegie fod y Beibl yn lyfr pwerus ac os y cai afael ynddo yna gallasai ei gam-ddefnyddio i reoli pobl a thynged y byd newydd Ôl-Apocalyptig. Ar y llaw arall roedd Eli oedd yn credu’r Beibl ac yn dilyn y Duw sgwennodd y Beibl am wneud yn siŵr fod y Beibl yn rhan o brosiect goleuedig i ail-adeiladu cymdeithas well yn yr oes Ôl-Apocalyptig.

Yr hyn oedd yn ddiddorol am y ffilm oedd bod Carnegie yn ogystal ag Eli yn credu yng ngrym y Beibl. Y gwahaniaeth gyda’r ddau oedd beth oedden nhw’n gwneud gyda’i rym wedyn. Roedd Eli wedi deall a chredu mai llusern oedd y Beibl ac roedd am i’r byd newydd gael ei lunio yn ôl goleuni’r un oedd y Beibl yn ei ddatguddio sef Iesu. Roedd Carnegie ar y llaw arall eisiau ail-adrodd pechod pwerau Imperialaidd y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg a ddefnyddiodd y Beibl nid i ryddhau pobl ond yn hytrach i orthrymu a rheoli pobl yn y trefedigaethau.

Ac i mi dyna wnaeth y ffilm fy nysgu i sef fod angen i’r pwerau Imperialaidd edifarhau am bechod Carnegie a bod angen i ni sy’n dilyn Iesu wneud yn siŵr mae defnyddio’r Beibl i ryddhau pobl o afael pob pechod ydym ni.

Please follow and like us: