Heddiw dwi wedi dechrau darllen ‘The Irresistible Revolution’ gan Shane Claiborne. Mae Shane yn perthyn i’r ysgol honno o’r byd efengylaidd sydd wedi cael llond bol a’r heijack y dde-gwleidyddol o’r label “efengylaidd” ar un llaw ac ar y llaw arall maen perthyn i’r ysgol honno o’r byd ymgyrchol gwleidyddol sydd wedi cael llond bol ar yr agenda seciwlar anffyddiol sy’n gwrthod mynd i’r afael a chwestiynnau dyfnaf dyn. Meddai Shane yn y rhagarweiniad: “I don’t really fit into the old liberal-conservative boxes, so it’s a good thing we are moving on to something new. My activist friends call me conservative, and my religious friends call me liberal.” Ac yn hynny o beth mae genna i a Shane rhywbeth yn gyffredin felly mi ddarllena i mlaen ag awch… adolygiad llawn ar y blog ar ol i mi orffen darllen.

Please follow and like us: