Gwedd nodedig i arddull R. Tudur Jones fel rhyddiaethwr oedd ei ddefnydd effeithiol o ddelweddau a chyffelybiaethau. Ceir un o’i gyffelybiaethau mewn ysgrif yn y Nation yn 1952 o’r enw ‘The Lion and The Leek’, ynddo mae’n paradîo’r dulliau honedig y mae’r Sais yn ei ddefnyddio i dwyllo’r Cymro gydag alegori am Lew ac Oen bach.
Yn y stori y mae’r Oen sydd wedi ei ddal yn ffae’r llewod yn holi’r Llew am ganiatâd i ddychwelyd adref i’w gorlan ei hun. Er mwyn twyllo’r Oen a’i orfodi i aros mae’r Llew yn neilltuo rhan o’r ffae yn arbennig i’r Oen bach diniwed. Yn ogystal y mae’r llew ‘caredig’ yn gosod plac ar fur y ffae yn nodi’r ffaith fod rhan o’r ffae’n eiddo’r Oen. Ar ddiwedd yr alegori y mae’r llew yn gofyn i’r oen chwilio am un rheswm pam y byddai’n dymuno gadael y ffae a lle mor hyfryd wedi’i neilltuo iddo o fewn ei byrth. Meddai Tudur Jones ar ddiwedd ei ysgrif;
And so the good news is out at last, Wales is to have an emblem all of its own on English coins. The trick in various forms continues to work remarkably well. Whether the object be a prince, a Secretary of State, or a leek, many Welsh men seem to think that it is an excellent substitute for national freedom and responsibility.