Wrth mod i’n cychwyn pregethu mwy dwi am drio darllen mwy ar y papur dyddiol oherwydd mae papur newydd yn llawn o hanesion a phenawdau sy’n cynnig eu hunain fel delweddau i ddefnyddio mewn pregeth i esbonio rhyw bwynt neu gilydd yn gliriach.

hysbyseb_crynwyr

Heddiw ‘ma ar y ffordd nôl o Gaerdydd ar y trên fe ddois i ar draws yr hysbyseb uchod gan y Crynwyr yn yr Independant. I ddechrau fe ddylwn ni nodi mod i’n cydnabod fod yr Eglwys anghydffurfiol wedi bod yn euog o bregethu lawr at bobl mewn ffordd hunanfoddhaus ac mae yna wahaniaeth pwysig rhwng pregethu’r newyddion da am Iesu’n eofn a phregethu i lawr at bobl mewn ffordd ni a nhw. I ddweud y gwir dwi’n hoff o’r duedd ymysg eglwysi cyfoes Saesneg i ollwng y gair pregethu, preaching, a defnyddio’r gair ‘talk’. Hynny yw: “our speaker next week is…”, ac: “I’m giving a talk next week on Mathew 5”. Ond rhywsut dydy “dwi’n rhoi sgwrs ar Mathew 5” ddim cweit yn gweithio felly am y tro pregethu fydda i yn y Gymraeg, but I’ll be giving talks in English!

Er mod i’n ffafrio steil mwy agored a chyflwyngar dros bregethu top-down dwi’n meddwl fod y Crynwyr gyda’r hysbyseb uchod wedi llacio gormod ar y staes. Y gyfrinach bob amser ydy geisio estyn allan heb werthu allan a dwi’n poeni fod y Crynwyr wrth geisio estyn allan wedi gwerthu allan. Diben yr Eglwys ydy pregethu’r newyddion da am Iesu nid galw bobl i gredu mewn unrhyw beth licia nhw. Dwi’n gwybod fod y Crynwyr yn bobl didwyll iawn a does dim byd yn bod gyda bod yn ddidwyll cyhyd ag eich bod chi’n sylwi fod modd bod yn ddidwyll o anghywir.

Ar un llaw mae’r hysbyseb yn iawn ac maen rhaid i ‘Thou Shalt’ dewis drosot dy hunan. Ond y dewis yw hyn: wyt ti’n gadael Iesu mewn i dy fywyd neu beidio. Nid ffydd pick and mix ydy’r ffydd Gristnogol fel mae’r hysbyseb yn awgrymu: nai llai rwyt ti’n gadael i Iesu Arglwyddiaethu pob rhan o dy fywyd di neu dwyt ti ddim. Yn bersonol pan dwi’n gadael i Iesu Arglwyddiaethu fy mywyd i mae pethau’n troi allan lot gwell ond pan mod i’n syrthio a gadael i’r FI fawr reoli mae pethau’n grêt i ddechrau ond yn fuan iawn aiff pethau’n flêr.

Dwi ishe cyfle i drafod y ffydd ac mae angen i bobl feddwl pethau trwyddo drostynt hwy eu hunain ond ddiwedd y dydd dywedodd Iesu ei hun “Myfi yw’r ffordd gwirionedd a’r bywyd” ac dy ni gyd yn cytuno, boed yn Gristion neu beidio, fod Iesu yn “ddyn da” yn dydyn ni? A byddai “dyn da” byth yn dweud celwydd siawns?

Please follow and like us: