Yr wythnos hon fe wnes i wrando ar Rory Stewart ac Alastair Campbell yn cyfweld Gus O’Donnell, cyn-bennaeth y Gwasanaeth Sifil. Safodd un rhan o’r cyfweliad allan; gofynwyd iddo am ei syniadau ynghylch cael llywodraeth i roi llawn gymaint o bwyslais ar Gross National Happiness (GNH) ac y rhoddai ar Gross Domestic Product (GDP).

Mae’r Llywodraeth Lafur newydd wedi bod yn agored am y ffaith nad ydyn nhw’n bwriadu newid llawer, ac mae’n ymddangos y bydd y Canghellor Rachel Reeves yn blaenoriaethu cydbwyso’r llyfrau yn anad dim arall; bydd unrhyw fuddsoddiad newydd real yn gorfod dod o’r sector breifat. Felly, dim newid radical go iawn, mwy o’r un peth.

Felly, os bydd y Llywodraeth newydd yn dilyn yr un math o agenda economaidd a gwleidyddol â’r un flaenorol, beth fydd yn newid? Sut bydd pethau’n gwella?

Wel, os dim byd arall, gallwn obeithio y gallant wneud rhywbeth i newid hwyliau pobl. Rwy’n gwybod bod hynny’n swnio’n feddal, ond ni ddylem danbrisio pwysigrwydd hwyliau pobl a sut mae pobl yn teimlo. Mae’n gysylltiedig â hapusrwydd, ac os ydych chi’n ystyried y person a’r gymdeithas gyfan, yna gallwch chi gredu bod person/cymdeithas hapusach hefyd yn un iachach ac yn fwy ffyniannus.

Dyfeisiwyd GDP i fesur gweithgaredd economaidd, nid sut mae’r person cyfan – yn gorff, meddwl ac ysbryd – yn gwneud a theimlo. Nid yw GDP yn gwahaniaethu rhwng gweithgareddau economaidd buddiol a niweidiol. Er enghraifft, tynnodd Gus O’Donnell sylw at y ffaith nad yw gwirfoddoli’n hybu GDP, ond mae gweithgareddau fel gwerthu cyffuriau neu gymryd rhan mewn puteindra yn gwneud! Mae gweithgareddau o’r fath yn cynyddu GDP er gwaethaf eu heffeithiau niweidiol ar gymdeithas; a gall gweithgareddau da fel gwirfoddoli newid bywyd rhywun yn sylweddol, ond ni fydd hynny’n cael ei adlewyrchu mewn unrhyw ystadegau GDP.

Mae GDP yn adlewyrchu gweithgaredd ond nid yw’n ystyried natur y gweithgaredd hwnnw. Gallai olygu cloddio mwy o byllau glo neu agor safle brigo nwy yng Nghaernarfon (!) i hybu twf economaidd, ond nid yw hynny’n arwydd o wir lwyddiant.

Dylai gwir lwyddiant fod yn gysylltiedig â gwella hapusrwydd a lles pobl. 

Mae diweithdra yn tanseilio hunan-barch a chysylltiadau cymdeithasol rhywun, sy’n hanfodol ar gyfer eu lles.  Nid problem o ‘anweithgarwch economaidd’ yn unig yw diweithdra, ond mae’n gysylltiedig â hunan-werth a syniadau o alwedigaeth a galwad.  Dychmygwch lywodraeth sy’n ymroddedig i wella bywydau a lles pobl, nid tyfu GDP yn unig?

Yn bersonol, credaf fod Incwm Sylfaenol Cyffredinol (UBI) yn un dull radical y dylid ei ystyried o ddifrif yn y dyfodol. Y syniad yw y byddai’r gost gychwynnol yn cael ei chydbwyso gan weithlu iachach a hapus a fyddai yn ei dro yn arwain at dwf economaidd a mwy o refeniw treth i’w wario ar wasanaethau cyhoeddus.

Rwy’n cytuno â Gus O’Donnell, mae’n bryd newid paradeim: blaenoriaethu Gross National Happiness dros Gross Domestic Product. Dyma un peth y gall y Llywodraeth newydd ei wneud hyd yn oed os ydyn nhw’n dweud nad oes ganddyn nhw lawer o fotymau economaidd i’w pwyso. Gallant newid hwyliau pobl, newid y stori a’u osgo. Gallant ddweud na wrth wleidyddiaeth sinigaidd a gwleidyddiaeth ofn, a dewis gobaith. Ni ddylem fychanu pwysigrwydd hwyliau pobl a sut mae pobl yn teimlo mewn gwleidyddiaeth a disgwrs gyhoeddus, oherwydd nid defaid economaidd ydym, rydym yn fodau dynol cyflawn sy’n gorff, meddwl ac ysbryd.  Fel person o ffydd, rwy’n credu bod yr her hon yn arbennig o berthnasol i Gristnogion yn y tymor newydd hwn sy’n agor o’n blaenau.

Please follow and like us: