Yn ‘Adnabod Duw’ ar Nos Fawrth yng Nghaersalem Caernarfon rydym ni’n mynd trwy Knowing God gan J.I. Packer gyda’n gilydd. Arwel sydd fel arfer yn arwain ac mae e’n wych yn arwain y drafodaeth a thynnu pawb i mewn. Ond wythnos yma roedd Arwel yn brysur felly roedd angen i mi arwain. Cyrraedd y bennod ar ‘Goodness and Severity’ Duw wnaethom ni, ei Dirioned a’i Erwinder. Yr adnod oedd yn agor y bennod oedd:
“Am hynny, ystyria’r modd y mae Duw yn dangos ei diriondeb a’i erwinder: ei erwinder i’r rhai a gwympodd i fai, ond ei diriondeb i ti, cyhyd ag y cedwi dy hun o fewn cylch ei diriondeb. Os na wnei, cei dithau dy dorri allan o’r cyff.” Rhufeiniaid 11:22
Gair allweddol yn yr adnod ydy “a’i” hynny yw “a hefyd”. Y cyd-destun yw bod Paul yn atgoffa’r cenedl ddynion fod Duw wedi dangos ei erwinder i’r Iddewon wnaeth ddim rhoi eu ffydd ynddo. Ond ar y llaw arall ei fod wedi dangos ei diriondeb i’r cenedl ddynion wnaeth roi eu ffydd ynddo. Mae e’n eu hannog nhw felly i fyfyrio dros y ddau ochr real yma o gymeriad Duw. Dydyn nhw ddim i ganolbwyntio ar ei diriondeb yn unig na’i erwinder yn unig. Mae e am iddyn nhw weld y ddwy wedd yma o gymeriad Duw mewn balans a gweld hefyd fod yna berthynas rhwng y ddau.
Mae Packer yn dweud fod gan bobl dyddiau yma syniadau niwlog am Dduw oherwydd bod pobl ddim yn gwerthfawrogi’r ddwy wedd yma o gymeriad Duw. Rhai pobl jest yn meddwl fod e’n Dduw lyfi-dyfi a ddim yn deall ei erwinder. Tra bod rhai pobl jest yn meddwl fod e’n farnwr mawr cas a ddim dealltwriaeth o’i diriondeb.
Trafodwyd ei bod hi’n hawdd i ni i gyd syrthio i ganolbwyntio ar ei diriondeb neu ei erwinder yn unig ar wahanol adegau yn ein bywyd. Rydym ni’n canolbwyntio’n unig ar diriondeb Duw efallai oherwydd bod ei erwinder yn mynd i’r afael a’n pechod, pechod dydym ni efallai ddim eisiau ei wynebu a’i gydnabod. Ond mae’n bosib i ni hefyd weld gerwinder Duw yn unig am yr un rheswm – rydym ni’n anwybyddu effaith pechod yn y byd ac yn ein bywydau ac felly wrth i bethau anodd godi mae’n haws beio popeth ar erwinder Duw yn hytrach na gweld mae pechod yw’r broblem a bod tiriondeb Duw yn cynnig fix.
Hynny yw, rydym ni’n dod fyny gyda syniadau o beth yw cymeriad Duw yn seiliedig ar ein cymeriad ni o beth fyddai’n ffitio mewn i’n bywydau a’n byd olwg ni. Mae’n well gyda ni lunio cymeriad Duw i siwtio ein bywyd ni na throi ein bywydau i ddilyn y Duw sy’n cael ei ddatguddio yn y Beibl.
Wrth bwysleisio pwysigrwydd tiriondeb a gerwinder Duw mae Packer yn cymharu hyn gyda’r gwahaniaeth rhwng Siôn Corn a Thad go-iawn. Mae Siôn Corn yn troi lan unwaith y flwyddyn a rhoi anrhegion – tywallt ei diriondeb i holl blant y byd. Ond mae Tad go-iawn gyda’i blant trwy’r flwyddyn. Mae’r Tad go-iawn unwaith eto yn dangos tiriondeb, ond allan o gariad ac er mwyn gwneud yr hyn sy’n gywir a chyfiawn mae’n rhaid i’r Tad go-iawn ddangos gerwinder weithiau.
Rhaid i Dduw, os ydio’n Dduw cyfiawn felly gael gerwinder yn ogystal â thiriondeb yn rhan o’i gymeriad.
Cymerwch fod gyda chi Brif Weinidog sy’n llawn tiriondeb. Mae’n hael iawn i’w ddinasyddion, mae’n rhoi bob dim maen nhw ei angen a mwy. Mae’n cyhoeddi fod llu o wyliau banc newydd yn cael eu sefydlu. Trwyddedi teledu a bus-pass am ddim i bawb, a pob math o bethau “tirion” eraill. Pwy na fyddai eisiau byw dan y Prif Weinidog yma?
Ond mae yna ochr arall i’r Prif Weinidog, mae e’n ofnadwy o soft. Mae e’n gadael pobl beryglus allan o’r carchar yn gynnar. Mae e’n gadael i’r Heddweision chwarae criced trwy’r dydd yn lle atal tor-cyfraith. Mae’n dweud wrth bawb anghofio am y rheolau a’r deddfau a gadael i bawb wneud beth bynnag maen nhw ishe. Yn araf deg mae e’n gadael i anghyfraith ledu. Ydych chi dal ishe byw dan y Prif Weinidog yma nawr?
Dim ond ar yr wyneb felly roedd y Prif Weinidog yma yn un da, tirion a chyfiawn. Scratch the surface ac rydych chi’n gweld fod e’n gadael i anghyfraith ac anghyfiawnder lywodraethu. Mae hyn yn ein dysgu ni fod yn rhaid cael tiriondeb a gerwinder gyda’i gilydd yng nghymeriad Duw os ydym ni’n credu fod Duw yn Dduw cariad a Duw cyfiawnder go-iawn.