Wrth mod i’n paratoi i deithio i Kiev ddiwedd yr wythnos lle dwi’n disgwyl gweld “tlodi” a “chaledi” mawr ches i fy atgoffa bore ma ar wefannau’r BBC fod tlodi difrifol o flaen ein trwynau yma yng Nghymru. Ar y cyfan mae rhannau mawr o Gymru, yn arbennig y fro Gymraeg a dros 40% o blant yn byw mewn tlodi ac mae’r nifer dros 50%+ mewn ardaloedd penodol fel y Cymoedd a Chwm Gwendraeth.

Map yn Dangos Tlodi Plant yn y DG
Mae’r Eglwysi fyddw ni’n ymweld a nhw yn Kiev yn ateb anghenion ymarferol a tlodi’r ddinas a thrwy hynny yn gweld twf Eglwysig pwysig ac arwyddocaol. Onid dyna fel yr oedd hi yng Nghymru slawer dydd? Yr eglwysi yn rhoi addysg i’r werin dlawd a thrwy hynny yn gweld twf Eglwysig? Yn wyneb yr ystadegau yma dwi’n gobeithio fedrw ni ddod a chydig bach o weledigaeth Kiev nol i Gymru gyda ni.
Dwi’n sicr fy marn fod efengylu heb ofal cymdeithasol i’ch cymdeithas yn siwr o fethu ac yn haeddu methu. Do fe ddywedodd Iesu fod rhaid i ni gael ein “ail-eni” i gael mynd i’r Nefoedd (John 3:3) ond fe ddywedodd hefyd fod rhaid i ni ildio ein cyfoeth a helpu’r tlawd (Luke 18:22). Mae Cristnogion yn tueddu i fynny closio at un o’r amodau hynny yn unig lle mewn gwirionedd maen rhaid mabwysiadu’r ddau.