Bythefnos yn ôl roeddw ni wedi ei gadael hi braidd yn hwyr wrth baratoi pregeth ar gyfer Penuel ar y Sul. Gwasanaeth arferol oedd hi yn hytrach na rhan o’r gyfres Torri Syched felly doeddw ni ddim am barhau a’r gyfres trwy Philipiaid felly fe benderfynais wneud rhywbeth ychydig bach yn wahanol a chynnig ymateb Ysgrythurol i rywbeth oedd yn gyfoes neu ar y newyddion.

Y symbyliad tu ôl i’r bregeth i gychwyn oedd teitl erthygl Nerys Evans AC ar WalesHome.ORG: “Plaid’s path out of poverty.” Gwnaeth hynny i mi feddwl am lwybr Iesu allan o dlodi ac yna holi beth yn union yw tlodi. Ar ôl myfyrio ar rai adnodau daeth y bregeth ynghyd gyda help arbennig un o lyfrau Dewi Arwel Hughes, God of the Poor.

Beth bynnag, dyma’r bregeth fel MP3. Tanysgrifiwch i’r podlediad drwy iTunes isod neu o dan yr icon tanysgrifio cliciwch ar yr icon “play” i’w chwarae yn eich porwr.

itunes

Please follow and like us: