Dwi wedi cael Tonsillitis ac maen anhygoel o anghyfforddus ac yn boendod go-iawn. Tonsillitis ydy pan fo eich tonsils yn heintio ac yna yn fflamio a chwyddo. Maen debyg mae diben eich tonsils ydy amddiffyn eich corff rhag heintiau, felly mewn ffordd mi ddyliwn ni fod yn falch fod fy nhonssils wedi cymryd yr haint yn fy lle! Oes delwedd o’r hyn wnaeth Crist drosom yma?

Dwi wedi hunan-bescreibio dos o Amoxicillin i fi fy hun i geisio taclo’r taclau! Roedd Menna, chwarae teg iddi (am ddioddef fy ngwyno yn ogystal a darparu’r cyffurfiau!), yn digwydd bod a phecyn dros ben. Beth yn union yw Amoxicillin felly? Wel dyma sut maen edrych:


Mae’n fath o benasilin sy’n cynnwys: “7-[2-amino-2-(4-hydroxyphenyl) -acetyl]amino-3,3-dimethyl-6-oxo -2-thia-5-azabicyclo[3.2.0]heptane -4-carboxylic acid.” Dydy hynny, wrth gwrsw, yn golygu dim i mi. Gobeithio fydd yr Amoxicillin yn gweithio oherwydd does dim byd mwy rhwystredig na’r rhen Toncillitis yma! Grrrr….

Please follow and like us: