Mae’r peiriant fideo yn cael ei gymryd ymaith i’w drwsio felly mae’r adroddiadau, y blogio a’r fideo’s am y daith i Kyiv on hold am rhai wythnosau yn anffodus. Ond maen rhaid cadw’r blog yn fyw felly dyma gychwyn blogio am bethau heblaw am Kyiv unwaith eto.
Un o’r llyfrau dwi’n darllen ar hyn o bryd ydy Total Church gan Tim Chester a Steve Timmis. Mae Tim Chester yn ddyn difyr iawn – gwnaeth radd diwinyddiaeth yn y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth ac fe wnaeth ymchwil dan Steven Nantlais Williams cyn iddo fe fynd mlaen i Union yng Ngogledd Iwerddon. Wedyn fe aeth Tim i weithio fel cyfarwyddwr ymchwil a pholisi i Tearfund a bellach mae’n un o arweinwyr The Crouded House yn Shefield sef symudiad plannu eglwysi blaengar. Dwi’n dilyn blog Tim Chester hefyd, rhowch glec yma neu mae yna ddolen barhaol lawr ar ochr chwith fy mlog i.
Llyfr ydy Total Church sydd yn y bôn yn perthyn i’r genre emerging church, symudiad oddi fewn i’r eglwys sy’n ceisio ail-ddarganfod a meddwl am ffyrdd newydd o wneud eglwys, rhyw fath o Church 2.0. Ond egwyddor bendant i lawer fel Tim Chester, Mark Driscoll a finnau oddi fewn i’r emerging church ydy’r pwysigrwydd, yn eu geiriau nhw, ‘…to reach out without selling out.’ Neithiwr wrth ddarllen y llyfr fe ddois i ar draws theori bwysig oedd yn esbonio fod yn rhaid edrych ar yr eglwys fel canolbwynt i’n bywydau a chymorth i ddelio a chyfrifoldebau eraill yn hytrach nag edrych ar yr eglwys fel un cyfrifoldeb ymysg llawer. Wrth orfod jygglo holl gyfrifoldebau bywyd maen anorfod y bydd rhai o’r cyfrifoldebau hynny yn cael eu gollwng ac i lawer o Gristnogion y cyfrifoldeb cyntaf sy’n cael ei esgeuluso a’i ollwng yw’r Eglwys. Mae Tim Chester yn dadlau fod hi’n anghywir i edrych ar yr Eglwys fel un o amryw gyfrifoldebau. Dyma yw’r model naturiol yn ein cymdeithas heddiw:
Ond dyma ddywed Chester a Timmis am y model amgen a’r model Cristnogol cywir:
An alternative model is to view our various activities and responsibilities as spokes of a wheel. At the centre or hub of life is not me as an individual, but us as members of the Christian community. Church is not another ball for me to juggle, but that which defines who I am and gives Christlike shape to my life.
Dwi’n disgwyl mlaen i ddarllen mlaen a darllen mwy o’r llyfr!
Amazon – Total Church: A Radical Reshaping Around Gospel and Community