Bore ‘ma fe es i allan ar y beic am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Mewn gwirionedd does gen i ddim esgus am beidio beicio mwy ers symud i Gaernarfon oherwydd fod un o lonydd beicio brafiaf (ac hefyd hawddaf) Cymru ar fy stepen drws – Lôn Eifion.

Rhaid cydnabod mod i ychydig bach yn self conscious yn arbennig ar ôl gweld yr athletwyr yn eu spandex yn Etape Eryri ddoe felly fe es i allan gyda’r wawr fel bod y lonydd yn dawel a neb arall o gwmpas. Ro ni wedi gobeithio bod allan gyda’r wawr (yn llythrennol) ond buodd rhaid i 6yb wneud y tro!

Dyma oedd y cylch:

Dyma oedd yr graddiant:

Dyma rai instagrams ar y ffordd (dwi’n difaru na es i a’r camera go-iawn … tro nesa):

8.3 milltir o gylch, wnes i gymryd tua awr gyda seibiant bach. Prin mod i wedi torri chwys a dwi ddim yn ffit o gwbl felly mae’n daith hawdd iawn ond gyda haul y bore a golygfeydd gorau Eryri roedd yn foddion i’r ysbryd hyd yn oed os na losgodd fawr o galorïau!

Please follow and like us: