Ydych chi’n cofio ‘Dewis’? Wn i ddim be ddigwyddodd iddyn nhw na pha effaith y cafodd y stynt ar Blaid Cymru. Ond dwi’n cofio mae un o’i pwyntiau nhw oedd bod angen priffordd dda/fawr i gysylltu y gogledd a’r de! Wel wrth gwrs y bod yna – felly pam nad ydy hyn wedi ei ddatblygu yn syniad go-iawn gan bleidiau gwleidyddol? Byddai’n gwneud gwyrthiau i economi Cymru. Dwi wedi gwneud ychydig bach o ymchwil. Wele ar y map y llwybr arfaethedig o Gaerdydd i Gaernarfon ac isod fe welir fy ymchwil i fewn i’r gost.

Yn ôl y wefan multimap mae’r llwybr yn 161 o filltiroedd. Yn ôl y wefan yma cost ar gyfartaledd adeiladu traffyrdd ym Mhrydain ar hyn o bryd ydy 28 miliwn y filltir.

Felly cost adeiladu y draffordd yma byddai – £4,508,000,000.

Ie dyna chi ychydig dros £4.5 biliwn!!!

Ond i’w roi mewn cyd-destun mae Prydain yn gwario £28 biliwn y flwyddyn ar hyn o bryd ar ‘amddiffyn’.

Ma £4.5 biliwn yn dipyn o bren yn dydi? (heb sôn am gladdu twnnel rhwng Dinas Mawddwy a Cross Foxes!)

Please follow and like us: