Mae fy MacBook Pro bron yn bedair mlwydd oed. Ar gyfer gwaith dydd i ddydd roedd dal yn rhedeg fel trên o’r Swistir ond roedd wedi dechrau fy nal yn ôl wrth wneud gwaith dwys ar Photoshop, Apeture a Final Cut. Gan fod gen i iMac adref (un fy nghyflogwr) i wneud y gwaith trymaf doeddwn i ddim eisiau prynu MacBook newydd gan mae dim ond yn achlysurol dwi angen peiriant all wneud gwaith trwm tra i ffwrdd o fy nesg. Nid oedd unrhyw gyfiawnhad rhesymegol i feddwl buddsoddi yn un o’r MacBook’s newydd.
Ond eto, roeddwn i’n rhagweld problemau yn ystod yr haf yn ystod cyfnodau lle roeddwn i ffwrdd o adref ond dal angen gwneud gwaith dylunio, golygu lluniau a golygu ffilm dwys. Yr unig ffordd roedd hi’n bosib i mi gynhyrchu ffilmiau dyddiol i Sianel 62 o Eisteddfod yr Urdd oedd fod yr Eisteddfod ar fy stepen drws ac roedd modd i mi fynd adref at fy nesg i wneud y gwaith golygu pob nos ar yr iMac. Ni fyddai ‘picio adref’ yn opsiwn o’r Wŷl Hannercant ym Mhontrhydfendigaid neu’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg felly roedd rhaid i mi gael peiriant oedd yn gallu gwneud gwaith trwm ar y lôn.
A dyna lle wnes i ddod ar draws sgwrs Iestyn a Gwion ar Twitter am ddisgiau SSD i’r MacBooks. Fe es i a RAM y MacBook mor uchel ag oedd yn bosib llynedd felly des i’r casgliad mae’r trawsblaniad angenrheidiol i roi bywyd newydd i’r MacBook oedd uwchraddio’r ddisg galed.
Roedd fy nisg galed 250Gb HDD yn llawn beth bynnag felly roedd cael disg fwy a disg mwy cyflym yn taro dau aderyn ag un garreg.
Copïo popeth oedd ar yr HDD i’r SSD gyda’r gwifren ddaeth gyda’r ddisg newydd. Tynnu’r HDD allan, gosod y newydd mewn a … hei, popeth yn gweithio fel o’r blaen heblaw fod gen i 250Gb gwag nawr (mae’r ddisg newydd yn 500Gb) a mae popeth yn hurt o gyflym! Yn gynt nac oedd y MacBook yn newydd gyda’r HDD hyd yn oed.
Roedd defnyddio Aperture yn arteithiol cynt ond nawr mae’n gweithio’n fwy llyfn na’r iMac. Dwi heb wneud unrhyw waith go-iawn ar Final Cut eto ond mae’r rhaglen yn agor llawer cynt ac yn fwy responsive nag o’r blaen.
Os ydych chi’n teimlo fod eich hen MacBook yn eich dal yn ôl yna uwchraddiwch o’r standard HDD i SSD da chi. Buddsoddiad gwerth chweil a buddsoddiad, gobeithio, bydd yn golygu na fydd rhaid i mi brynu MacBook newydd am rai blynyddoedd eto.