Dwi’n mynd lawr i Gaerdydd heno – recordio Bandit gyda Kerdd Dant, dwi’n chwarae gitâr fas, disgwyl ymlaen. Dwi hefyd yn disgwyl ymlaen i’r daith i lawr oherwydd dy ni (Fi ac Andras) yn mynd ar y trên! Dwi rioed di gwneud y daith yma ar drên o’r blaen, ond gan fod ni’n cael costau teithio yn ôl gan Bandit pam lai na theithio ar y trên yn lle’r Traws Crwban!

Wele yn y llun gwrs y daith.

Cewch adroddiad llawn o fy mhenwythnos yn y ddinas (a’r daith drên) ddydd Llun.

Please follow and like us: