Dwi wedi bod yn tynnu lluniau gyda DSLRs ers pedair blynedd bellach. Am y tair cyntaf ro ni’n defnyddio’r Canon 1000D ac ers blwyddyn nawr dwi wedi uwchraddio i’r Canon 7D. Dwi’n dysgu mwy a mwy bob wythnos ond dyma’r tri pheth buaswn i wedi hoffi deall o’r dechrau ond dim ond wedi deall yn iawn yn y flwyddyn ddiwethaf.
Pwysigrwydd saethu yn manual
Efallai fod hyn yn swnio’n amlwg i rai, ond am gyfnod reit hir ar ôl cael DSLR roeddwn ni’n saethu yn fully automatic neu yn programme mode. Os oedd y camera yn methu tynnu llun gyda’r ddau setting awtomatig yna roeddwn i’n rhoi’r gorau iddi gan dybio fod hi’n rhy dywyll neu’n rhy lachar. Mentrais i ddim i ddefnyddio’r DSLR mewn fully manual mode tan yn llawer mwy diweddar a dim ond bryd hynny y des i allu defnyddio gwir bŵer DSLR. O edrych nôl roeddwn i’n gwbl ffôl oherwydd os dwyt ti ddim mynd i ddefnyddio dy DSLR yn fully manual yna does dim pwynt i ti gael DSLR o gwbl, byddai’n well cael compact da. Felly tip un yw mynd i saethu a meistroli fully manual mor fuan â phosib.
Pwysigrwydd aperture
Er i mi ddarllen llawer am hyn wnes i ddim llawn ddeall pwysigrwydd y defnydd o aperture. Shutter speed yw pa mor hir mae’r lens ar agor, aperture yw faint o’r lens sydd ar agor (mewn ffordd). Felly’r mwyaf o’r lens sydd ar agor y lleiaf o amser sydd rhaid i’r lens fod ar agor; a’r lleiaf o amser mae’r lens ar agor y lleiaf o wobble fydd i’r llun a’r mwyaf siarp fydd y llun. Cwbl elfennol dwi’n gwybod, ond wnes i ddim deall hyn am y ddwy flynedd gyntaf oedd gen i DSLR! Mae gan wahanol lensys aperture gwahanol, roedd y lens ddaeth gyda fy nghamera yn mynd lawr i f/3.5 sy’n oce, ond bellach mae gen i lensys sy’n mynd reit lawr i f/2.8 a f/1.4. Pan yn prynu lensys yn gyntaf doeddwn i heb ddeall pwysigrwydd aperture isel ac felly dim ond yn edrych ar focal lengths lensys a’r canlyniad oedd prynu lensys a focal lentha defnyddiol ond oedd ac aperture mawr ac felly yn dda i ddim yn tynnu lluniau mewn golau isel. Felly tip 2 yw meistroli’r gallu i saethu gyda aperture mor isel â phosib ac wrth uwchraddio eich lensys cewch am lens ac aperture isel, fel lens ychwanegol i’ch kit lens dwi’n awgrymu’r 40mm 2.8 neu’r 50mm 1.4.
Peidiwch bod ofn ISO uchel
Pan ges i DSLR gyntaf wnes i ddarllen fod ISO yn gyfaddawd mawr. Y mwyaf uchel roedd yr ISO y mwyaf grainy oedd eich llun yn mynd. Er bod hyn, wrth gwrs, yn wir, fe wnes i gael i mewn i’m mhen mae normal oedd saethu yn ISO 100-400 ac os oedd wir angen neidio i 640. Ond roedd fy 1000D yn mynd lan i 1600 ac mae fy 7D yn mynd yn holl ffordd i 6400! O fentro defnyddio ISO uchel rydych chi’n cael get away gyda defnyddio shutter speeds cymharol gyflym mewn golau isel. Roedd fy holl luniau o Ŵyl Hanner Cant wedi eu saethu gydag ISO o oliaf 1600, rhai cymaint â 3200. Bedair blynedd yn ôl baswn i ddim wedi trafferthu saethu gydag ISO mor uchel gan dybio fod yr ansawdd yn dirywio gormod. Felly tip 3 – peidiwch bod ofn ISO uchel.
Felly mentrwch mewn manual, prynwch lens ac aperture isel a peidiwch bod ofn ISO!
Yn bersonol, dwi pob tro yn saethu yn Aperture priority, a mond yn defnyddio Manual pan dwi methu cael be dwi eisiau
Pan dwi’n saethu yn Aperture priority mae’n lluniau wastad yn underexposed. Ella mae glitch ar fy nghamera i ydio. 7D wyt ti’n defnyddio hefyd ie?
Mae o’n beth dryslyd, Dwi’n gwybod, ond agoriad bach ydi f1:16 er enghraifft, a f1:1.4 yn agoriad marw! Pan oedd pawb yn dal o ddefnyddio ffilm
Dwi hefyd yn eitha hooked i aperature priority, yn bennaf o achos ei effaith ar ddyfnder ffocws. Byddai’n defnyddio ‘exposure compensation’ pan dwi methu cael be dwisho, ac addasu wedyn yn photoshop.
Dwi’n meddwl fod y pwynt am ISO yn amrywio o gamera i gamera ac yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Ar fy nhamera i, dwi’n sylwi fodISO uchel mewn golau dydd (drwy gamgymeriad fel arfer) yn edrych yn ofnadwy, ond mewngolau artiffisial / nos yn troi allan yn ok.
@Aled o ie, ‘ma ISO isel wastad yn well, ond y pwynt oeddwn i’n gwneud yw fod ISO uchel gyda shutter speed sydyn yn hytrach na ISO is efo shutter speed arafach yn well dan amodau golau isel e.e. gigs, gwyliau cerddorol gyda’r nos ayyb… Hefyd, dylwn i wedi nodi fod galluogrwydd ISO yn amrywio o un camera i’r llall. Yn amlwg bydd ISO uchel pethau fel y 7D, 5D ayyb… yn rhoi canlyniadau gwell na 1000D a point and shoots. Un o’r rhesymau fod pro’s yn mynd am y camera drud ydy er mwyn eu gallu mewn golau isel, mewn golau dydd fedri di ddim gweld lot o wahaniaeth rhwng llun wedi dynnu ar gamera £300 a £3,000 ond mewn golau isel mae’r gwahaniaeth yn dod yn eglur.