Y cofnod hwn yn Saesneg | This post in English

Neithiwr fe wylies i raglen ddiddorol ar BBC iPlayer, Trouble in Amish Paradise. Yn anffodus dwi ddim yn meddwl fod y rhaglen dal yna erbyn heddiw i chi sydd heb ei weld ei wylio. Roedd yna sawl peth diddorol iawn i’w arsylwi a sawl gwers, dwi’n meddwl, i ni fel Cristnogion – yn enwedig rhaid efengylaidd – yng Nghymru ddysgu ohono.

Y cyntaf oedd fod yr Amish, yn anffodus, yn gwlt i bob pwrpas ac yn llwyddo i barhau oherwydd ufudd-dod llwyr y dilynwyr i’w harweinwyr – yr esgobion roedden nhw’n cael eu galw. Roedd y rhaglen yn dilyn hanes un gwr yn arbennig; roedd y gwr wedi torri’n rhydd oherwydd ei fod wedi mynd i edrych ar air Duw drosto ef eu hun yn hytrach na derbyn pethau’n ddi-gwestiwn gan esgobion yr Amish. Roedd y gwr fel rhyw fath o fersiwn cyfoes Amishaidd o Martin Luther. Roeddwn ni’n edmygu’r gwr yn fawr iawn ac yn ei gael yn ddyn hynod. Ond un o’r pethau mwyaf difyr amdano oedd ei fod yn awyddus i gadw at y traddodiadau a’r diwylliant Amish er gwaethaf ei fywyd newydd yng Nghrist.

Oes yna wersi allwn ni ddysgu allan o stori y gwr yma felly? Wel, yn gyntaf maen ein dysgu eto fod yn rhaid edrych ar air Duw nid traddodiad ein mudiad/enwad e.e. ydy chwarae pêl ar y Sul yn anghywir? Nac ydy! Wyt ti’n pechu os wyt ti’n cael un neu ddau o’r ddiod gadarn? Nac wyt! Dwi’n cofio clywed stori unwaith am fachgen bach gafodd ei fagu yn y traddodiad efengylaidd ceidwadol a wnaeth sylwad fod yna bobl ddim yn Gristnogion ar y sail mai y wraig oedd yn gyrru a’r gwr yn y passenger seat! Dyna ddangos grym traddodiad wrth gymylu gair Duw. Bychan oedd y bachgen ond roedd yna rhywbeth o’i le fod y naws gafodd ei fagu ynddo wedi ei arwain at y cam-argraff yna.

Yr ail wers i ni ddysgu gan y gwr Amish oedd na ddylem ni droi cefn ar ein diwylliant ar ôl dod i ffydd ond yn hytrach ymroi iddi o’r newydd i’w gwasanaethu. Mae hyn yn broblem real yng Nghymru heddiw oherwydd fod rhai Cristnogion yn gadael eglwysi Cymraeg enwadol ac yn ymuno a rhai Saesneg efengylaidd/carismataidd ar ôl dod yn Gristnogion. Ar ryw olwg rwy’n deall pam, mae trio tystiolaethu mewn llawer o eglwysi Cymraeg yn waith anodd, di-lewyrch a di-galon, ond dim ond gwaethygu’r sefyllfa y mae’r Cristnogion hynny sy’n gadael ar ôl cael tröedigaeth yn ei wneud. Ydy hyn y peth cywir i wneud? Beth am gyfrifoldeb i’ch pobl chi? Mi fyddai hi wedi bod yn haws i’r gŵr amish droi cefn ar ei gymuned ar ôl dod i adnabod Iesu; ond na, roedd e’n benderfynol o aros gyda nhw er mwyn eu goleuo a’u gwasanaethu. Roeddwn ni’n parchu hynny’n fawr iawn.

Please follow and like us: