Mae’r erthygl yma’n ymddangos yn y rhifyn cyfredol o Cristion sydd ar gael o’ch siopau llyfrau lleol neu mae modd tanysgrifio ar-lein ar www.cristion.net
Treuliais yr haf diwethaf yn teithio trwy ddwyrain yr Unol Daleithiau, nid yn unig ddinasoedd y gogledd-ddwyrain ond hefyd rai o daleithiau’r ‘Bible Belt’ yn y de. Rai wythnosau cyn i ni gyrraedd cyhoeddodd y biliwnydd a’r seren deledu, Donald Trump, ei fwriad i geisio enwebiad y Gweriniaethwyr ar gyfer yr Arlywyddiaeth. Ar y dechrau edrychwyd ar ei gyhoeddiad fel dim byd mwy na stynt cyhoeddusrwydd, ond wrth i’r haf fynd rhagddo a’i boblogrwydd yn y polau piniwn yn codi a chodi sylweddolwyd fod daeargryn ar droed ymhlith y GOP (y Grand Old Party).
Daeth hi’n dipyn o arferiad i ni orffen y diwrnod yn ôl yn ein llety ar ôl bod yn crwydro drwy droi CNN ymlaen i weld yr adroddiadau diweddaraf am syrcas Trump. O’r sôn am godi mur enfawr ar hyd y ffin gyda Mexico (“China built a wall,” meddai, “and guess how many Mexicans they have!”) i’r addewid i anfon 11,000 o geiswyr lloches allan o’r wlad ar unwaith – roedd ei awgrymiadau a’u bolisïau’n mynd yn fwy gwallgof ac adweithiol bob dydd.
O ddiddordeb penodol i mi roedd ymateb Cristnogion yr Unol Daleithiau i Trumpmania. Byth ers twf mudiad y religious right ddiwedd y 1970au mae’r Gweriniaethwyr wedi dibynnu’n drwm ar gefnogaeth rhai carfanau o Gristnogion Efengylaidd. Ac felly er mwyn ennill yr enwebiad mae’n rhaid i Trump apelio at y garfan hon o fewn y Gweriniaethwyr. Tra oeddem ni yn ardal Mobile, Alabama ym mis Awst cynhaliodd Trump rali enfawr i dri deg mil o’i ddilynwyr ac wrth agor ei araith, gan wybod yn iawn pwy oedd ei gynulleidfa, dywedodd yn ymffrostgar : “Now I know how the great Billy Graham felt.”
Un o’r digwyddiadau doniolaf i ni ei weld oedd Trump yn cael ei gyfweld ar Bloomberg yn y cyfnod lle roedd yn ceisio selio cefnogaeth y garfan benodol honno o efengylwyr. Gofynnwyd iddo enwi ei hoff adnod o’r Beibl, ond gwrthododd ateb gan ddweud: “I wouldn’t want to get into it because to me that’s very personal. You know, when I talk about the Bible, it’s very personal, so I don’t want to get into verses,” gan ychwanegu, “The Bible means a lot to me, but I don’t want to get into specifics.” I bawb oedd yn gwylio ac hefyd i’r sawl oedd yn ei gyfweld roedd hi’n amlwg nad oedd yn gwybod dim oll am y Beibl ac am osgoi dangos ei anwybodaeth rhag colli cefnogaeth ymhlith rhai efengylwyr. Gwelodd y cyfwelydd ei gyfle gan fynd ymlaen i’w brofocio ymhellach gan ei holi a oedd yn “Old Testament guy or a New Testament guy?”. Ac atebodd Trump a golwg o banig llwyr ar ei wyneb: “Probably equal.” Ac mae’r cyfweliad trist-ddoniol hwnnw nawr wedi mynd yn viral ar y we.
Hyd y gwela i mae’n gymharol amlwg mae fraud yw Trump o ran ei Gristnogaeth. Ond ar hyn o bryd yr ymgeisydd mwyaf poblogaidd ymysg y garfan benodol yma o efengylwyr yw’r ‘casino mogul’, sydd wedi ysgaru ddwywaith, nad yw’n aelod gweithredol o unrhyw eglwys ac sydd â hanes hir o ddefnyddio iaith anweddus. Nid yn unig hynny, ond mae’n brolio nad yw erioed wedi gofyn maddeuant gan Dduw ar gyfer dim oll o hyn.
Wrth i ni hedfan adref i Gymru roeddem ni’n tybio y byddai’r syrcas wedi chwythu ei phlwc cyn i bobl ddechrau pleidleisio yn 2016. Ond gyda rhai wythnosau yn unig ar ôl cyn i’r Gweriniaethwyr ddechrau pleidleisio i ddewis eu hymgeisydd mae Trump yn parhau i fod ymhell ar y blaen i’w holl wrthwynebwyr. I Gristnogion fel fi sy’n fwy rhyddfrydig ein gwleidyddiaeth yr unig gysur yn hyn yw y bydd ymgeisyddiaeth abswrdaidd Trump fel Arlywydd, er gwaethaf amhoblogrwydd Obama, yn gwneud buddugoliaeth i’r Democratiaid yn fwy tebygol.