Mae’r tymor yma wedi hedfan. Dwi di bod wrthi heddiw yn pacio fy mhethau oherwydd mae yna gynhadledd neu rywbeth ym Mhantycelyn dros y gwyliau felly ma’ rhaid i ni symud popeth allan – tipyn o strach i fi heb sôn am bobl sy’n gorfod mynd a phopeth i ben arall y wlad! Dwi’n gobeithio mynd lawr i Gaerdydd am y penwythnos, felly rhaid i mi gael trefn ar bethau heno os ydw’i am gychwyn tua’r ddinas yn fuan fory!

Moel iawn yw’r muriau heb y posteri!

Bobi Jones sy’n siarad yn UCCA heno – disgwyl ymlaen yn arw.

Please follow and like us: