Tystiolaethu’n Ddigidol a’r Emerging Church

Fel y soniais ar y blog ddiwedd wythnos diwethaf fe wnes i fynychu Cynulliad Oedolion Ifanc yr Annibynwyr dros y penwythnos lle roeddw ni’n siarad ar y testun Tystiolaethu’n Ddigidol a’r Emerging Church. Dyma grynodeb o’r neges, ar waelod y postiad mae dolen i chi islwytho’r anerchiad yn llawn fel PDF.

Gellid dadlau gyda chryn argyhoeddiad fod dylanwad Cristnogaeth ar Gymru wedi bod cyn gryfed os nad yn fwy, dyweder, na dylanwad Marcsiaeth a’r Rwsia. Mae gan Gymru, yn ddi os, hanes gyfoethog o fod yn genedl sydd wedi ei chyffwrdd a’i ddylanwadu gan Gristnogaeth ond gadewch i ni edrych ar y sefyllfa heddiw. Fe ddywedodd 71% (sef dros ddwy filiwn o bobl) ohonom ni ein bod ni’n Gristnogion yn y cyfrifiad diwethaf. Ar bapur felly mae’r Cymry yn Gristnogion ac mae Cymru’n wlad Gristnogol o hyd. Ond fe ddywedodd y cymdeithasegydd Paul Chambers yn ei lyfr Religion, Secularization and Social Chance in Wales (2005) fod crefydd, er gwaetha’r ffaith fod dros 70% o Gymry yn adnabod eu hunain fel Cristnogion, yn farw yng Nghymru: ‘Religion in Wales,’ meddai Chambers, ‘if not entirely dead, is seen as terminally sick, subject to the secularizing influences common throughout Europe.’ Mewn ymateb i eiriau sobreiddiol Paul Chambers fan yma yn ogystal a defnydd digon elfennol o’n synhwyrau a’n synnwyr cyffredin ni ellid derbyn, yn ddi gwestiwn o leiaf, ganlyniadau cyfrifiad 2001 a honnodd fod Cymru yn parhau i fod yn wlad fwyafrifol Gristnogol.

Pan gyhoeddwyd Yr Her i Newid yn 1995 dim ond 8.7% o Gymry oedd yn mynychu unrhyw fath o eglwys a ddeng mlynedd yn ddiweddarach mae’r ffigwr wedi syrthio i 6.4%. Sut felly mae ymateb i’r her? Tri ymateb posib:

Ymateb 1: Negyddiaeth a gwrthod newid
Efengyl+Eglwys-Diwylliant = Ffwndamentaliaeth

Ymateb 2: Colli’r ffocws
Eglwys+Diwylliant-Efengyl = Rhyddfrydiaeth

Ymateb 3: Diwygiadol, neu yn Saesneg Reformitionnal
Efengyl+Eglwys+Diwlliant=Diwygiadol

Mae ffaeleddau amlwg yn y ddau ymateb cyntaf ac felly ein dyletswydd ni yw darganfod, arddel a gweithredu ffydd Gristnogiol sydd wedi deall yr Efengyl yn llawn, yn deall beth yw’r eglwys a’i rôl ond hefyd bod yn eglwys sy’n berthnasol yn ddiwylliannol.

Casgliadau

1. Mae’r Eglwys wedi methu a dilyn esiampl Paul ac yn fwy pwysig Iesu, rhaid i ni fel cenhedlaeth beidio efelychu’r genhedlaeth ddiwethaf.

2. Pwysig cofio mae addasu’r cyfrwng ydym ni’n gwneud ac nid addasu’r neges.

3. Iesu sy’n rhoi dilysrwydd i’n math newydd o eglwys ac nid yr hen fath o eglwys.

Rhowch glec yma i ddarllen yr anerchiad yn llawn: Tystioilaethu’n Ddigidol a’r Emerging Church (PDF)

Please follow and like us:

5 thoughts on “Tystiolaethu’n Ddigidol a’r Emerging Church

  1. Jean Calvin

    Mae’r disgrifiad o lyfr Chambers a’r dadansoddiad yn ddiddorol iawn, a dylai sbarduno ddyn i feddwl yn ddwys am y pwnc. Serch hynny, o ystyried yr hafaliad yn cynnwys yr elfennau efengyl, eglwys a diwylliant cododd y pwynt, (yn fy mhen lled syml i), beth yn union yw’r rhain. Maent yn dermau sy’n ddefnyddiol iawn, ond teimlaf nad oes dadansoddiad (neu ddisgrifiad) o beth ydynt a beth yw eu hystyr.

  2. Rhys Llwyd

    Diolch am y sylwad Calvin. Ni es i fewn i drafod beth yn union oedd yr efengyl, yr eglwys a diwylliant oherwydd nid dyna oedd diben yr anerchiad a byddai angen anerchiad cyfan i drafod y tri agwedd benodol os edrych arnynt yn deg a manwl ond yn fras iawn iawn iawn dyma ydw i’n ei olygu:

    Efengyl: y ddysgeidiaeth fod Crist yn Iawn trosom ac mae fydd a dim byd arall mae Duw yn gofyn amdano. Cyfiawnhad trwy ffydd.

    Eglwys: pan fo Cristnogion yn dod at ei gilydd a chyfarfod yn enw Crist. Yr Eglwys yw “priodferch” Crist.

    Diwylliant: rwy’n ei olygu yn yr ystyr lleta posib, llen, cerddoriaeth, celf, gwleidyddiaeth, byd busnes h.y. popeth o bethau’r byd hwn OND sydd, fel popeth arall, yn ddarosyngedig i benarglwyddiaeth Duw.

  3. Alwyn ap Huw

    Dau sylw brysiog, wedi darllen dy PDF, ond heb fawr o amser i ymateb yn drylwyr.

    Yn gyntaf mae’r traddodiad Cristionogol Cymraeg wedi bod yn un eithaf gwleidyddol rhyddfrydig.

    Bu Cristionogaeth Gymreig yn gefn i’r Blaid Ryddfrydol, Y Blaid Lafur a Phlaid Cymru. Y duedd o Gristionogaeth ar y we yw ei bod yn ordrwm Americanaidd.

    Mae traddodiad asgell dde eithafol Cristionogaeth yr Amerig yn dechrau britho llythyrau i’r wasg a chyfraniadau ar-lein sy’n cefnogi achos Crist yn y Gymraeg.

    Mae’n bwysig bod Efengyl Crist ar y we Gymreig yn oruchafu barn gwleidyddol unplyg Cristionogion yr UDA, a bod Cristionogaeth Cymreig yn para’n ddriw i’w traddodiad 1500 flwydd Gymreig o radicaliaeth.

    Os ydym am gyhoeddi neges Crist trwy ddulliau cyfoes, mae’n holl bwysig bod y neges yna yn driw i’n traddodiadau ni a’n natur ni fel Cymru. Does dim modd efengylu i bobl Cymru efo cyfieithiad Cymraeg neu Gymreig o du draw i’r Iwerydd.

    Yn ail. O ddefnyddio’r we a’i bethau i efengylu, mae’n bwysig mae pobl sydd yn frwdfrydig dros y cyfrwng sydd yn arwain y gad ac nid pobl sy ddim yn ddeall y cyfrwng yn trio’u gorau.

    Pan oeddwn yn blentyn a’r Beetles a’r Pinaclau Pop yn meddiannu brwdfrydedd ieuenctid, roedd hen flaenoriaid yn meddwl bod modd denu ieuenctid i’r capel trwy ddefnyddio guitar yn lle organ i ganu Pantycelyn yn y capel!

    Methiant llwyr, gan mae’r hynafgwyr oedd yn pennu’r hyn yr oeddynt yn tybio oedd diwylliant ieuenctid ar yr ieuenctid yn hytrach na chaniatau iddynt hwy fynegi eu ffydd trwy eu diwylliant newydd eu hunain (fel gwnaeth yr hogyn ugeinfwlydd o Bantycelyn yn ei ddydd).

    Y perygl fwyaf i’r efengyl ar y we yw gadael i hen bregethwr diflas (fel fi) i fod yn gyfrifol am y capel ar y we, yn hytrach na chaniatau i ieuenctid mwy safi i fynegi’r hen ffydd yn y modd newydd.

  4. Alwyn ap Huw

    WPS

    Mae’n bwysig NAD YW Efengyl Crist ar y we Gymreig yn oruchafu barn gwleidyddol unplyg Cristionogion yr UDA, a bod Cristionogaeth Cymreig yn para’n ddriw i’w traddodiad 1500 flwydd Gymreig o radicaliaeth.

  5. Rhys Llwyd

    Diolch am y sylwad Alwyn. Cytuno 100%, pe bawn i wedi cael dau sesiwn i fynd dros y pwnc mi fuasw ni wedi defnyddio’r ail sesiwn i bledio fod angen i’r eglwys, yn enwedig y traddodiad efengylaidd oddi fewn iddi, ddychwelyd at radicalrwydd gwleidyddol.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.