CwmbranTan yr wythnos yma dwi wedi osgoi dweud unrhyw beth yn gyhoeddus am y tywalltiad yng Nghwmbrân. Dros yr wythnosau diwethaf mae eglwys Victory Church wedi gweld degau yn dod i gredu – yn cael tröedigaethau dramatig – a rhai yn honni eu bod nhw wedi eu hiachau drwy law gweinidogaeth yr eglwys. Yn sgil y cyffro yma mae cannoedd wedi bod yn tyrru i gyfarfodydd yn yr eglwys bob noson o’r wythnos ers rhai wythnosau. Mae’r is-ddiwylliant Cristnogol wedi bod yn dilyn y datblygiadau’n fanwl ers tro, ond daeth y cyfan i sylw’r Gymru Gymraeg yn gyffredinol wythnos yma yn dilyn adroddiad am y cyffro ar Newyddion 9, S4C.

Y pennaf reswm pam mod i heb siarad yn gyhoeddus am y tywalltiad tan nawr yw oherwydd mae fy ymateb greddfol i unrhyw beth allan o’r cyffredin fel hyn yw aros i weld sut a lle mae’r llwch yn setlo. Er bod blynyddoedd 1904-05 yn enwog fel rhai o ddiwygiad pwerus Evan Roberts, roedd blynyddoedd 1906 ymlaen yn enwog am fod yn flynyddoedd y llithro yn ôl mwyaf yn hanes y ffydd Gristnogol yng Nghymru. Do fe gafodd lawer brofiadau dramatig yn ystod 1904-05, ond mae hanes yn awgrymu mae profiad emosiynol yn unig efallai y cafodd llawer tra bod y rhai ddaeth i ffydd wirioneddol ac a wreiddiodd wedyn yng ngair Duw yn llai niferus. Ond beth bynnag am y llaweroedd gafodd eu cipio am amser byr yn y cyffro fe wnaeth rhai ddod i brofiad real o Dduw yn ystod 1904-05 ac rwy’n argyhoeddedig hefyd fod rhai (ond llawer gobeithio) yn dod i brofiad real o Dduw yng Nghwmbrân eleni.

Dwi’n adnabod sawl person sydd wedi bod i Victory Church dros yr wythnosau diwethaf. Un ohonyn nhw yw David Ollerton – arweinydd Cristnogol aeddfed sydd wedi gweld a bod trwy sawl traddodiad a gwahanol fads eglwysig dros y degawdau diwethaf. Mae pawb sy’n adnabod David hefyd yn gwybod ei fod yn gwbl ddi-lol, di-flewyn-ar-dafod a bod ganddo’r gallu i weld trwy’r hyn sy’n arwynebol a dod at graidd y mater. Mewn gair, rwy’n fodlon ymddiried yn yr hyn sydd gan David i ddweud am Gwmbrân. Dyma ddywedodd mewn cyfweliad diweddar i gylchgrawn o Sweden (!):

I have been to Victory Church, and have known of the church since it started a few years ago … Richard’s background is Pentecostal, and the meetings reflect that … The worship is organized, front-led, and in no way spontaneous, as was a pattern in previous revivals in Wales. Testimonies are read, not normally given live, and there is an emphasis on healing and the transforming effect of a touch of God on the individual. The worship leading and preaching is shared, but Richard is the main leader. He is clear in emphasizing that the greatest need and miracle is for personal salvation and this is emphasized in each meeting. Opportunity to come to Christ is made, by raising a hand, coming forward, and then retiring to a side room, where, presumably, counsel and prayer is given. The preaching when I was present followed the appeal, and was brief. Experience of God’s immediate presence is the emphasis, more than a biblical exposition of the Gospel.

I cannot say that I sensed any special presence, beyond high expectation and enthusiasm. It felt like a well organized Pentecostal event. However, and this is what is outstanding, there were hundreds there, and many of them were unchurched, the ‘least, the lost and the low’, and they were crowding to meet God for themselves. The common people were hearing gladly. Mark 12:37. I have never seen so many needy people seeking God, and that must surely be evidence of the Spirit’s work. Richard was careful to say that, in his opinion, it was not a revival, but an outpouring that had overtaken them, and they were running with it as best they could …

Y peth pwysicaf i mi yw pobl yn dod i ffydd yn Iesu Grist, i mi dyma’r newyddion mawr. Ond yn naturiol yr hyn sydd wedi ennyn y mwyaf o drafodaeth, yn arbennig ers yr eitem ar Newyddion 9 ydy’r honiadau fod pobl yn cael eu hiachau. Yn bersonol dwi’n credu yng ngrym gweddi a dwi’n credu fod Duw yn gallu iachau. Yn fy ngweinidogaeth i dwi wedi gweld pobl yn gwella o afiechyd difrifol fel Cancr, ac wedi gweld pobl yn cael eu rhyddhau o gaethiwed afiechydon fel alcoholiaeth ac iselder manig. Yn yr holl achosion yma mae doctoriaid neu ffisegwyr proffesiynol wedi bod yn rhan o’r ateb, anghyfrifol iawn yw dewis gweddïo dros fater yn lle mynd at y doctor. Mae angen i bobl fynd at y doctor ac fe wnawn ni yn yr eglwys weddïo ynghylch y sefyllfa. Rydw i wedi gweld rhai yn ein heglwys ni yn tystio fod Duw wedi eu cario a’u rhyddhau o salwch ond mai doctoriaid fel petai oedd y cyfryngau i hyn.

575725_467562919991639_1681693600_nOnd mae rhywbeth rhywfaint yn wahanol yn digwydd yng Nghwmbrân fe ymddengys, sef honiadau o iachau cwbl wyrthiol lle nad ydy doctoriaid wedi bod a rhan yn y peth. Yn bersonol does gen i ddim profiad helaeth o hyn yn fy ngweinidogaeth i, fodd bynnag rwy’n agored i’r posibilrwydd gan mod i’n credu mewn Duw sy’n gallu gwneud gwyrthiau. Fodd bynnag, rhaid bod yn eithriadol o ofalus gyda hyn rhag cam-arwain pobl, llenwi pobl a ffug obaith a hefyd rhwystro pobl troi at gymorth meddygol proffesiynol os mae dyna maen nhw eu hangen. Does dim tystiolaeth fod y math yma o gam-arwain yn digwydd yng Nghwmbrân, ond mae’n rhywbeth i’w fonitro yn sicr. O’r hyn rwy’n deall mae pobl sy’n honni eu bod nhw wedi eu hiachau yn cael eu hanfon i weld doctor er mwyn cadarnhau eu bod wedi gwella. Wrth gwrs mae’r amheuwyr yn dadlau fod hyn ddim yn profi dim oherwydd efallai eu bod nhw wedi gwella beth bynnag, heb unrhyw gysylltiad gyda’r weddi y cawsant nhw yng Nghwmbrân. Does dim ffordd o brofi naill ffordd neu’r llall os yw gweddi wedi bod yn ffactor wrth i rywun wella, felly cwestiwn o ffydd yw hyn. Yn bersonol dwi’n credu fod gweddi yn medru bod yn ffactor wrth i rywun wella.

Mae’n anorfod y bydd rhai pethau yn mynd o chwith yng Nghwmbrân. Mae ein heglwys ni yma yng Nghaernarfon ac oddeutu 40 yn mynychu ac mewn criw bach fel yna rydym ni wedi profi ambell i ddafad ddu a sawl un yn cymryd cam ymlaen mewn ffydd cyn cymryd dau gam yn ôl. Mewn sefyllfa lle mae cannoedd yn dod trwy’r drysau bob nos mae’n ddigon naturiol y bydd rhai o’r honiadau o iachau yn ffug, peth o’r rhai sy’n proffesu tröedigaeth dim ond wedi eu cipio yn y cyffro ac y bydda nhw’n anghofio popeth am eu hymrwymiad i ddilyn Iesu’r bore wedyn. Mae arwain eglwys hefyd yn waith sy’n straen emosiynol mawr – eto mewn sefyllfa o arwain eglwys o ddim ond 40 dwi’n gallu tystio i’r straen ar adegau o gario poenau emosiynol a phryderon criw mwy o bobl na’ch teulu agos. Dychmygwch y pwysau sydd ar Richard a’i gyd-arweinwyr yng Nghwmbrân. Dan y fath bwysau bydd hi’n ddigon posib, yn ddigon naturiol hyd yn oed i rai o’r arweinwyr losgi allan a hyd yn oed baglu yn eu cerddediad gydag Iesu. Dynol ydyn nhw wedi’r cyfan. Ond er y gall rhai pethau fynd yn anghywir dydy hynny ddim yn cymryd i ffwrdd o’r hyn sydd i ddathlu yng Nghwmbrân sef fod yna bobl yn y Gymru ôl-Gristnogol sydd ohoni dal yn dod i gredu yn Iesu Grist.

Please follow and like us: