Yn y rhifyn cyfredol o’r Cylchgrawn Efengylaidd mae Steffan Jones yn rhoi sylw i hynt a helynt Undeb Cristnogol Exeter sy’n mynd a’i Prifysgol, gyda chymorth a chefnogaeth y Christian Instutute, i’r Uchel Lys am beidio gadael iddynt fod yn gymdeithas swyddogol (affiliated). Cefais fy hun yn cytuno ar lawer bwynt gan Steffan ond yn anghytuno ar ambell bwynt yn ogystal. Gan fod Steffan wedi nodi mae ‘cynnig cyfraniad i’r drafodaeth’ oedd ei fwriad dyma fy nghyfraniad i i’r drafodaeth – iach o beth yw trafod yn nhraddodiad y Seiat! Dwi wedi llunio ymateb mawr cynhwysfawr i’w gyhoeddi yn y rhifyn nesaf o’r cylchgrawn gobeithio ond dyma bwt bach o’r ysgrif fwy i chi:

Rhoes Steffan yn y rhifyn diwethaf gryn sylw i’r mudiad The Christian Institute, rai blynyddoedd yn ôl pan ddechreuais ymddiddori yn y berthynas rhwng Cristnogaeth a Gwleidyddiaeth edrychwn ar y mudiad hwn fel chwa o awyr iach. Cristnogion diwygiedig sy’n ymhél a Gwleidyddiaeth – rhagorol meddwn ninnau yn naïfrwydd fy ieuenctid. Erbyn heddiw fodd bynnag, wedi i mi ddod i werthfawrogi’r hyn sydd gan bobl fel Kuyper a Dooyeweerd, ac yng Nghymru R. Tudur Jones, i ddweud am sofraniaeth Duw ym mhob sffêr ac o ganlyniad pob maes gwleidyddol dwi’n tyfu’n gynyddol sgeptigaidd o ethos y Christian Institute. Fe dynnwyd fy sylw at y tyllau yng nghyfundrefn feddwl y Christian Institute wrth ddarllen llyfr gan Jim Wallis yr ydw i wedi rhoi sylw iddo yn y cylchgrawn yma o’r blaen sef ‘God Politics.’ Yn y llyfr hwnnw mae Wallis yn beirniadu’r Gweriniaethwyr (plaid Bush a’r rhelyw o Gristnogion Efengylaidd yr UDA) am ymladd yr etholiad ar sail ‘moral issues’. Ymysg y pynciau moesol yma mae – yn ôl y disgwyl – erthylu, hawl rhieni i ddisgyblu plant, ymchwil stem cells ac yn y blaen. Dadl Wallis yw fod y Gweriniaethwyr yn anghywir i nodi beth ddylai fod yn bynciau moesol i Gristion; hynny yw fe ddylai cynnwys cyllideb y llywodraeth fod yn gymaint o bwnc moesol i Gristion ag ydyw polisi’r llywodraeth ar ymchwil geneteg.

Rwy’n cael sylwad Wallis yn graff ac yn gwbl gywir – i’r Cristion nid oes yna fath beth a phynciau moesol, y mae pob pwnc a phob agwedd o’r gwleidyddol yn ymwneud a gwneud penderfyniad moesol. O ddeddfau yn ymwneud ag erthylu i ddeddfau megis toriadau treth i aelwydydd incwm isel. Ac yn y golau yna yr wyf i wedi troi’n amheus o’r Christian Institute oblegid y mae ganddyn nhw adran ar eu gwefan lle medrwch weld sut pleidleisiodd eich AS ar y pynciau moesol yma yn San Steffan. Dim sôn o gwbl sut pleidleisiodd eich AS ar fater rhyfel Irac, dim sôn o gwbl sut y pleidleisiodd ar fater Ffioedd Dysgu Prifysgol nac ychwaith ar Breifateiddio rhannau o’r NHS. Os y cymerwn fod Iesu yn Benarglwydd ar bopeth y mae i’r materion yna gymaint o arwyddocâd moesol i’r Cristion ag ydyw pynciau megis Deddf Hapchwarae neu Erthylu.

Yn ail rhoes Steffan sylw i’r ffaith fod rhai Undebau Cristnogol yn mynd a’i Prifysgol neu eu Hundeb Myfyrwyr i’r Llys. Mae’r ddysgeidiaeth ar anghydfod yn dra ddiddorol yn y Bregeth ar y Mynydd, Mathew 5:25, sef ceisio’n frwd am gymod tu allan i lys. Rhaid i Gristnogion ddewis eu brwydrau’n ofalus.

Fe ddangosodd Steffan i ni pa mor gymhleth a dyrys yw’r mater yma ac fe ategaf hynny – cymhleth a dyrys tu hwnt yw’r busnes yma! Ond fel casglid carwn nodi dau beth. Yn gyntaf y pwysigrwydd, onid dyletswydd, i’r Cristion ymhél a Gwleidyddiaeth ar bob lefel nid dim ond pan fo’r senario yn codi lle bo rhaid dewis rhwng Iesu a Cesar. Rwy’n argyhoeddedig y byddai’r Undebau Cristnogol a’r byd Cristnogol Diwygiedig yn gyffredinol wedi eu harfogi’n well i ddelio a senario o’r fath petai yn ymhél a gwleidyddiaeth o ddydd i ddydd nid dim ond pan fo sathru ar fawd troed yn digwydd. Yn ail, neges i arweinwyr UCCF ac Undeb Cristnogol Exeter, gan eu bod nhw mor frwd i aros yn rhan o’r sefydliad gellid ond neidio i’r casgliad mai Anglicaniaid ydynt oll. Rheitiach o beth fyddai iddynt ddarllen Congregationalism in England gan Dr. Tudur er mwyn gweld fod yr eglwys ymneilltuol wedi goroesi, onid blodeuo a hynny heb unrhyw gysylltiad a’r sefydliad!

Darllen Pellach

  • R. Tudur Jones: ‘The Chrisistian Doctrine of the State’ yn ‘Congregetional Quarterly’, XXXI/4, 1953


  • R. Tudur Jones: ‘Yr Ysbryd Glan’ (Caernarfon: Llyfyrfa’r Methodistiaid Calfinaidd, 1972) – pennod 42: ‘Yr Ysbryd Glan a Diwylliant’


  • R.M. Jones: ‘Mawl a Gelynion ei Elynion’ (Abertawe: Cyhoeddiadau Barddas, 2002) – y bennod olaf: ‘Hanfod Adnabod Bodolaeth yw Moli.’


  • Vincent E. Bacote: ‘The Spirit in Public Theology – Appropriating the Legacy of Abraham Kuyper’ (Grand Rapids Michigan: Baker Academic, 2005)
Please follow and like us: