Hunllef i bob myfyriwr Athroniaeth neu Ddiwinyddiaeth yw gweld magnus opus Awstin o Hippo (354-430) Dinas Duw neu De Civitate Dei ar restr darllen. Lluniwyd y gwaith gan Awstin
i’w gyflwyno i lywodraeth Rhufain oedd ar y pryd yn cymhathu ei hun fwy fwy a’r Eglwys ac yn saernïo’r hyn a adnabyddir fel Christendom a fyddai’n dominyddu gwleidyddiaeth a diwylliant y Gorllewin hyd ein cenhedlaeth ni heddiw. Fory dwi’n mynd i gynhadledd flynyddol Adran Ddiwinyddiaeth Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru. Maen hen sefydliad a thraddodiad sydd, yn anffodus, ar ei draed olaf ond gan ei fod wedi methu yn ei rôl i wasanaethu’r Eglwysi mewn modd defnyddiol a deinamig ers blynyddoedd os nad degawdau fydd y golled ddim yn cael ei deimlo tu allan i dwr ifori academia. Testun y gynhadledd fory ydy ‘Y Cristion a’r Wladwriaeth’ a fi fydd yn ymateb yn ffurfiol i bapur Guto Prys ap Gwynfor lle bydd yn dadlau y dylai’r eglwys fod mewn gwrthwynebiad parhaus i’r sefydliad.
Â
Ar y cyfan dwi’n cytuno a phapur Guto ond mi fyddai rhai yn dadlau mae unig rôl y Cristion yw pregethu’r efengyl ac os bydd Cristnogion yn cael eu gweld yn ddiwyd mewn gwleidyddiaeth, yn enwedig gwleidyddiaeth gwrth-sefydliadol, y gallai hynny galedu pobl tuag at yr efengyl a bod yn rwystr i genhadaeth. Yn y cyd-destun hwn mae John Elias a’r Trefnyddion Calfinaidd cynnar yn dod i’r meddwl. Pennaf ddylanwad Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg heb os oedd Anghydffurfiaeth a’r y sefydliad mwyaf ei ddylanwad oedd y Methodistiaid Calfinaidd. Mae Dewi Rowland Hughes yn ei lyfr diweddar am hanes Cymru Fydd yn gwneud y sylwad y bo’r mudiad gwleidyddol cenedlaethol cyntaf yng Nghymru wedi bod yn hirymarhous yn union oherwydd dylanwad trwm Anghydffurfiaeth ar y wlad. ‘Roedd y Methodistiaid’ meddai ‘am ganrif gyfan, yn negyddol dros ben yn eu hymarweddiad a’u hagwedd tuag at wleidyddiaeth.’ Y ddau ffigwr gorchestol a gadwodd yr anghydffurfwyr yn ddistaw yn wleidyddol cyhyd oedd John Elias ‘y pab Methodistaidd’ a Christmas Evans ‘esgob’ y Bedyddwyr. Yn gyntaf rhaid gwerthuso y pardduo yma ar ddylanwad Anghydffurfiaeth gan haneswyr a beirniaid llenyddol seciwlar diweddar.

John Elias
I raddau gellid deall, hyd yn oed derbyn y ffaith, y bod naws bietistaidd Anghydffurfiaeth hanner cyntaf y bedwaredd ganrif a’r bymtheg wedi ffrwyno datblygiadau gwleidyddol a chenedlaetholgar posib. Petai’r oleuedigaeth a moderniaeth wedi cyrraedd Cymru’n gynt a heb ei rwystro gan ddylanwad Calfiniaeth-Efengylaidd rhaid cydnabod y posibilrwydd y byddai radicaleiddio wedi dod yn gynt. Fodd bynnag rhaid edrych ar y rhesymau a gwerthfawrogi’r dylanwadau a’r amgylchiadau yr oedd y Calfinwyr Anghydffurfiol yn profi ar y pryd os am ddeall pam y bu ffrwyno. Yn gyntaf oll ac yn bennaf oll prif gonsyrn John Elias a’i gyfoeswyr oedd lles ysbrydol Cymru, eu priod waith oedd pregethu’r efengyl nid codi terfysg a chwyldro – wedi’r cyfan efengylwyr ac apostolion oeddent nid newyddiadurwyr a gwleidyddion. Rhaid deall a gwerthfawrogi hynny cyn eu collfarnu am fod yn bietistaidd.

Christmas Evans
Yn dilyn y chwyldro Ffrengig yn 1789 roedd y sefydliad mewn llawer gwlad gan gynnwys Lloegr a Chymru yn gwegian yn eu hesgidiau – dyma oedd yr awyrgylch wrth i John Elias deithio Cymru a denu cannoedd weithiau miloedd i’w glywed yn pregethu. Mae adroddiadau i dorfeydd o dros ddeng mil dyrru i’w glywed yn pregethu ym Môn ac fel y noda R. Tudur Jones roedd ‘unrhyw un a allai dynnu chwarter poblogaeth sir at ei gilydd yn un dyrfa i wrando arno’n ŵr i’w wylio.’ Ymhellach fe noda R. Tudur Jones fod hyn yn ‘achos pryder’ i’r awdurdodau. O ran Christmas Evans a’r hen ymneilltuwyr roeddent hwy wedi bod yn rhydd i gyfarfod a phregethu ers y Ddeddf Goddefiad yn 1689 – amod y ddeddf yma oedd na fyddai iddynt herio a chystadlu’n uniongyrchol â’r drefn eglwysig a gwleidyddol sefydledig. Yn syml nid oeddent am beryglu eu rhyddid i bregethu’r efengyl a dyna sydd i esbonio’r ffrwyno gwleidyddol i raddau.
Ond wrth gwrs nid ydym ni, hyderaf, yn wynebu yr un rhwystrau a John Elias a Christmas Evans. Rwyf fi yn weithgar gyda Chymdeithas yr Iaith ac wedi treulio amser mewn cell deir gwaith yn y blynyddoedd diwethaf ond, hyd yma, nid yw fy ngweithgaredd gwrth-sefydliadol wedi effeithio fy rhyddid i bregethu’r efengyl. Ac oherwydd hynny mae fy nghydwybod i yn glir! Galwch draw fory yn y Morlan, Aberystwyth am 10.30 y.b. os am glywed y dadleuon yn llawn.